Meysydd Pwnc
Mynediad
Ein darpariaeth Mynediad yw'r ffordd berffaith o ddychwelyd i fyd addysg gyda'r nod o fynd ymlaen i'r brifysgol neu newid cyfeiriad eich gyrfa.
Addysg Sylfaenol i Oedolion
Datblygwch eich sgiliau gyda chyrsiau Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol yn dechrau ym mis Medi, Ionawr ac Ebrill.
Gwyddoniaeth Awyrofod ac Awyrennau
Hyfforddwch i gael gyrfa ym maes awyrofod - un o'r diwydiannau sy'n tyfu gyflymaf yn y DU
Celf, Dylunio ac Amlgyfrwng
Fyddech chi'n hoffi datblygu eich talent mewn celf, dylunio neu amlgyfrwng a hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau creadigol?
Gwasanaethau Adeiladu
Cyfle i hyfforddi i fod yn fasnachwr medrus a chymwys mewn trydanol, plymio a theilsio.
Busnes, Cyllid, Gweinyddu a Chyfrifeg
Cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau busnes ac agor drysau ar yrfaoedd ledled amrywiaeth eang o ddiwydiannau.
Arlwyo a Lletygarwch
Cyfle i ennill cymwysterau diwydiant a phrofiad i ddechrau ar eich gyrfa fel Cogydd, Pobydd neu arbenigwr Blaen Ty.
Gofal Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae ein holl gyrsiau gofal plant, blynyddoedd cynnar ac iechyd a gofal cymdeithasol yn gyfle i chi gael gwybodaeth, sgiliau, profiad a chymwysterau diwydiant er mwyn dechrau yn eich gyrfa.
Adeiladu
Cyfle i hyfforddi i fod yn fasnachwr medrus a chymwys mewn gwaith brics, gwaith coed, paentio ac addurno neu blastro.
Peirianneg
Cyfle i hyfforddi i fod yn Beiriannydd medrus a chymwys - gan agor drysau ar amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfaol.
Esports
A oes gennych ddiddordeb mawr mewn gemau? Mae Esports yn ddiwydiant byd-eang sy’n datblygu ar raddfa gyflym yn cynnig nifer o lwybrau gyrfa i reoli digwyddiadau, hyfforddi a marchnata.
Trin Gwallt, Harddwch a Therapïau Ategol
Cyfle i ennill cymwysterau diwydiant a phrofiad i ddechrau ar eich gyrfa fel Steilydd Gwallt, Technegydd Lliw, Therapydd Harddwch, Therapydd Ategol neu Reolwr Salon.
Paratoi ar gyfer Gwaith, Bywyd a Dysgu
Mae ein cyrsiau yn eich paratoi ar gyfer byw'n annibynnol, gwaith neu astudiaeth bellach.
TG a Chyfrifiaduron
Mae sgiliau TG yn hynod werthfawr i gyflogwyr ym mhob sector. Ewch ati i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn TG a Chyfrifiaduron ac agor drysau ar amrywiaeth eang o yrfaoedd.
Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio
Cyfle i ddysgu gan staff sy'n weithwyr proffesiynol yn y diwydiant a gweithio ar friffiau byw ar gyfer diwydiant fel rhan o'ch cwrs.
Ar-lein ac Ar y Campws
Rydym yn gwerthfawrogi bod bywyd bob dydd yn cyflymu, felly dyna pam ein bod ni wedi chwilio am ffyrdd newydd o addysgu – ffyrdd sy’n gallu ei gwneud hi’n haws astudio ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith a bywyd.
Chwaraeon
Mae ein cyrsiau chwaraeon wedi'u lleoli ar Gampws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd (CISC) - cartref ysbrydoledig Chwaraeon CAVC.
Addysgu ac Addysg
Gall rôl yn y sector addysg roi llawer iawn o foddhad gyda chyfleoedd ar gael y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Teithio a Thwristiaeth
Mae ein cyrsiau teithio a thwristiaeth yn datblygu eich sgiliau a'ch profiad ac yn darparu cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant er mwyn agor drysau ar yrfa yn y diwydiant.
Mynediad Galwedigaethol
Mae ein cyrsiau yn eich paratoi ar gyfer byw'n gwaith neu astudiaeth bellach.
Cyrsiau Addysg Uwch yn CAVC
Hyfforddiant arbenigol. Cyfleusterau anhygoel. Cymorth gwych. Gwnewch gais nawr ar gyfer mis Medi.