Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio
Am Gerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio
Addysgir ein cyrsiau a’n rhaglenni Prentisiaeth uchel eu parch ar ein Campws Canol y Ddinas sy’n cynnwys cyfleusterau ffilm, dawns, cerddoriaeth a chelfyddydau perfformio o’r radd flaenaf. Nid dyna’r cyfan serch hynny, mae gennym hefyd Theatr Michael Sheen (a agorwyd yn swyddogol gan y dyn ei hun!), ystafelloedd Mac ac ystafelloedd dosbarth creadigol arbenigol. Byddwch yn cael eich dysgu gan staff sy’n weithwyr proffesiynol yn y diwydiant ac yn gweithio ar friffiau byw i’r diwydiant fel rhan o’ch cwrs.
Coleg Caerdydd a’r Fro yw coleg sylfaenol Academi Sgiliau Cenedlaethol i’r Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol yng Nghymru — sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr gysylltu â chyflogwyr. Rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliadau mawreddog gan gynnwys BAFTA a Theatr Genedlaethol Cymru i gynnig cyfleoedd unigryw i chi glywed gan arbenigwyr yn y diwydiant ac ymgymryd â lleoliadau gwaith sy’n rhoi hwb i’ch CV ac yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyflogaeth.
Eich CAVC
Eich Diwydiant
Eich Dyfodol
Cyrsiau Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
Cerddoriaeth | L2 Llawn Amser | 4 Medi 2023 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Cerddoriaeth (Cynhyrchu) | L3 Llawn Amser | 4 Medi 2023 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Cerddoriaeth (Perfformio) | L3 Llawn Amser | 4 Medi 2023 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
DipHE mewn Perfformio a Recordio Cerddoriaeth | L5 Llawn Amser | 11 Medi 2023 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Diploma mewn Addysg Uwch (DipHE) Cynhyrchu Cerddoriaeth Electronig | L5 Llawn Amser | 11 Medi 2023 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
BA (Anrhydedd) Cynhyrchu Cerddoriaeth Electronig (Atodol) | L6 Llawn Amser | 11 Medi 2023 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
BMus (Anrh) mewn Perfformio a Recordio Cerddoriaeth (Atodol) | L6 Llawn Amser | 11 Medi 2023 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
Actio er Hyder | L3 Rhan Amser | 9 Tachwedd 2023 1 Chwefror 2024 2 Mai 2024 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Celfyddydau Perfformio | L3 Llawn Amser | 4 Medi 2023 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Rubicon Dance - Diploma Estynedig | L3 Llawn Amser | 8 Medi 2023 | Rubicon Dance |
Ymarfer y Celfyddydau Perfformio (Theatr Gerddorol) | L3 Llawn Amser | 4 Medi 2023 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Diploma Proffesiynol Ymarfer Perfformiad | L4 Llawn Amser | 4 Medi 2023 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |