Prentisiaethau
Os ydych chi'n teimlo'n angerddol am weithio mewn gyrfa benodol neu wedi meddwl am swydd ddelfrydol, mae prentisiaeth yn lle da i ddechrau.
Beth yw manteision Prentisiaeth?
- Ennill cyflog wrth hyfforddi
- Cael gwyliau gyda thâl
- Derbyn hyfforddiant arbenigol
- Ennill cymwysterau cydnabyddedig cenedlaethol
- Datblygu sgiliau penodol i swydd ar gyfer eich gyrfa
- Cychwyn eich gyrfa o'r dechrau un
- Cael llawer o gefnogaeth gan eich cyflogwr, tiwtoriaid y coleg a'ch cydlynydd hyfforddi a'ch aseswyr.
Sut i sicrhau prentisiaeth
Os ydych chi dros 16 oed, yn byw yng Nghymru a ddim mewn addysg llawn amser gallwch wneud cais am Brentisiaeth. Yn gyntaf, byddwch angen cyflogwr. Cael cyngor call.
Mae ein rhaglenni Prentisiaeth yn cael eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.