Rydym yn gwerthfawrogi bod cyflymder bywyd bob dydd yn cyflymu, a dyna pam rydym wedi chwilio am ffyrdd newydd o addysgu - ffyrdd sy'n ei gwneud hi'n haws i astudio ochr yn ochr ag ymrwymiadau bywyd a gwaith.
Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Mindful Education i greu casgliad o gyrsiau dysgu cyfunol sy'n darparu opsiynau astudio hyblyg, gan gyfuno dysgu ar-lein gyda gwersi wyneb yn wyneb yn y dosbarth.
Mae ein hamrediad o gyrsiau rhan amser proffesiynol yn cynnig y gorau o ddau fyd, gan ddisgwyl llai o amser yn y coleg na chyrsiau traddodiadol dosbarth yn unig, ac yn galluogi dysgwyr i ddysgu sut, pryd a lle maent eisiau astudio.
Ar-lein ac ar y campws - y gorau o'r ddau fyd
Mae darlithoedd fideo ar-lein ar gael ar gais, ac i'w gwylio o'ch ffôn, tabled neu gyfrifiadur. Mae gwersi'n para tua 45 munud ac yn dod ynghyd ag animeiddiadau â graffeg symudiad er mwyn dod â chysyniadau'n fyw. Ymarferion, astudiaethau achos rhyngweithiol ac offer creadigol er mwyn helpu ehangu'r profiad dysgu ymhellach.
Ar y campws, byddwch yn manteisio ar ddosbarthiadau coleg rheolaidd - ac ni fydd angen i chi ymrwymo i fynychu nosweithiau niferus bob wythnos. Bydd tiwtoriaid profiadol yn trafod ac yn atgyfnerthu'r hyn rydych wedi'i ddysgu'n ystod eich astudiaethau ar-lein a byddant ar gael i ddarparu arweiniad ynghylch datblygiad ac asesu. Bydd trafodaethau a dadlau gyda chyd-fyfyrwyr o gymorth i chi gymhwyso theorïau i sefyllfaoedd rydych yn eu hwynebu yn y gweithle.
Y Cyllid sydd ar Gael
Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid a benthyciadau i’ch helpu i dalu costau eich astudiaeth:
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
Tystysgrif AAT mewn Cyfrifeg (Ar-lein ac Ar y Campws) | L2 Rhan Amser | 17 Medi 2024 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Diploma Uwch AAT mewn Cyfrifeg (Ar-lein ac Ar y Campws) | L3 Rhan Amser | 5 Medi 2024 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Diploma Proffesiynol AAT mewn Cyfrifeg (Dysgu Cyfunol) | L4 Rhan Amser | 10 Medi 2024 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |