Prentisiaethau Iau

Mae Prentisiaethau Iau yn ffordd newydd unigryw o ddysgu a dechrau ar eich hyfforddiant ar gyfer gyrfa yn y dyfodol i ieuenctid 14 i 16 oed.

Mae Prentisiaethau Iau yn ffordd unigryw newydd o ddysgu a dechrau hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. Yn ystod Blwyddyn 10 a 11, mae pobl ifanc ar raglen Prentisiaeth Iau yn dod i’r coleg, yn hytrach na’r ysgol, pum diwrnod yr wythnos yn ystod y tymor.

Ar Brentisiaeth Iau, gallwch ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ac ennill cymwysterau diwydiant ar gyfer eich gyrfa ddewisol yn y dyfodol.

Ynghyd â hyn, byddwch yn astudio Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, ac yn parhau i sefyll arholiadau TGAU yn y pynciau hyn sy’n wysig ar gyfer unrhyw yrfa yn y dyfodol.

Mae’r rhaglenni unigryw hyn yn cynnig llwybr ar gyfer pobl ifanc i hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. Ein nod yw eich paratoi ar gyfer cyflogaeth ac yn barod i symud ymlaen at eich cam nesaf - cwrs lefel uwch neu brentisiaeth yn eich gyrfa ddewisol yn 16 oed.

Rydym yn gweithio gyda dros 25 o ysgolion ledled Caerdydd a'r Fro ac yn darparu ystod o Lwybrau Dysgu arloesol, ysgogol.

Am ragor o wybodaeth am School Link, cysylltwch â'r tîm: learningpathways@cavc.ac.uk

Ynghylch ein rhaglen Brentisiaethau Iau

Ar Brentisiaeth Iau, byddwch yn...

  • Cael y cyfle i ddechrau hyfforddi ar gyfer gyrfa yn 14 neu 15 oed
  • Cael yr un tymhorau a gwyliau â’ch ysgol
  • Astudio yn y coleg yn ystod y tymor, pum diwrnod yr wythnos, 9.30am - 3.00pm
  • Derbyn cefnogaeth dysgu gan ein Hyfforddwyr Dysgu a pharhau i dderbyn trafnidiaeth a chinio ysgol am ddim os dych yn gymwys
  • Canolbwyntio ar bynciau rydych yn eu mwynhau ac yr hoffech gael gyrfa ynddynt yn y dyfodol
  • Astudio ar gyfer cymwysterau a gydnabyddir gan ddiwydiant 
  • Camu allan o amgylchedd yr ysgol ac i Gampws Canol y Ddinas CAVC - coleg lle gallwch ddysgu mewn cyfleusterau safon diwydiant a gyda thiwtoriaid cymwys y diwydiant
  • Cael cyfle i ennill cymhwyster Lefel 1 neu 2 sy’n berthnasol i’r yrfa honno, yn ogystal â TGAU mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth
  • Cael sicrwydd o le yn CAVC ar gwrs lefel uwch neu brentisiaeth ar ôl i chi gwblhau Blwyddyn 11 yn llwyddiannus
  • Paratoi at gyflogaeth a gyrfa yn y maes yr ydych yn ei ddewis

Am beth ydym yn chwilio?

Disgyblion Blwyddyn 10 neu 11 sydd...

  • Eisiau dechrau hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol
  • Yn awyddus i ddod i’r coleg, gweithio’n galed a dysgu am y pwnc

Nid oes angen ichi fod â chymwysterau blaenorol.

Sut i wneud cais?

I wneud cais, mae’n rhaid ichi siarad â’ch Pennaeth Blwyddyn yn yr ysgol neu arweinydd lle rydych wedi eich cofrestru i ddysgu ar hyn o bryd. Nid yw’r Coleg yn gallu derbyn ceisiadau uniongyrchol ar gyfer Prentisiaethau Iau.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael eu hatgyfeirio drwy’r ysgol neu lle rydych wedi eich cofrestru i ddysgu ar hyn o bryd.

Lawrlwythwch ein canllaw i Brentisiaethau Iau yma!

Rhaglenni dwy flynedd blwyddyn 10:

Arlwyo a Lletygarwch

Ydych chi’n meddwl y gallech chi fod y cogydd gorau nesaf? Datblygwch eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad ar gyfer gyrfa mewn arlwyo a lletygarwch yn y dyfodol - wrth ddysgu yn ein bwytai, ceginau a becws rhagorol.

Trin Gwallt a Harddwch

Datblygwch sgiliau a phrofiad mewn Gwasanaethau Cwsmer, Trin Gwallt a Harddwch ac agorwch ddrysau at ystod eang o yrfaoedd yn y meysydd hyn, gan ddysgu yn ein salon a sba masnachol o’r radd flaenaf ar ein campws.

Aml-Grefftau

Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar dri math gwahanol o grefft, gan gynnwys Modurol, Adeiladwaith a Gwasanaethau Adeiladu. Bydd dysgwyr sy’n astudio ar y llwybr hwn yn datblygu sgiliau mewn meysydd fel mecaneg, atgyweirio corff a chynnal a chadw gyda cherbydau ysgafn neu drwm. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddatblygu profiad a sgiliau ymarferol gyda gwaith brics, saernïaeth, peintio ac addurno.

Rhaglenni Blwyddyn o Hyd - Blwyddyn 11:

Aml-Sgiliau

Mae’r rhaglen hon yn cynnwys modiwlau Gwallt a Harddwch, Arlwyo a Lletygarwch, ac Iechyd a Gofal Plant. Mae hyn wedi ei ddylunio i roi cipolwg ichi o bob un o’r diwydiannau hyn a’r opsiynau llwybrau gyrfa sydd ar gael.

Aml-Grefftau

Mae’r rhaglen hon yn cael ei chynnal dros un flwyddyn ac yn cynnwys ffocws ar wahanol grefftau - Modurol, Adeiladwaith a Gwasanaethau Adeiladu. Yn ogystal, byddwch yn datblygu sgiliau mewn meysydd fel mecaneg, atgyweirio corff a chynnal a chadw gyda cherbydau ysgafn neu drwm. Mae hefyd cyfle i ddatblygu profiad a sgiliau ymarferol mewn gwaith brics, saernïaeth, peintio ac addurno.