Dyluniwyd ein cyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus i baratoi myfyrwyr ar gyfer mynediad llwyddiannus i unrhyw un o’r gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai, felly mae’r dysgu’n canolbwyntio ar ymchwilio i waith yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac Achub, y Gwasanaeth Ambiwlans, y Lluoedd Arfog a’r Gwasanaeth Carchardai.
Caiff y gwasanaethau cyhoeddus hyn eu trefnu a’u hariannu gan y llywodraeth er budd y gymdeithas. Mae ystod eang o alwedigaethau yn y gwasanaethau amddiffyn mewn lifrai a’n nod yw eich paratoi chi gyda’r sgiliau a’r profiad cywir i sicrhau gwaith a chynnydd.
Byddwch yn astudio pynciau ac yn derbyn hyfforddiant ym meysydd fel Dinasyddiaeth ac Amrywiaeth, Ymddygiad a Disgyblaeth, Paratoi Corfforol, Iechyd a Llesiant, Gwaith Tîm, Arweinyddiaeth a Chyfathrebu a mwy. Gydag opsiynau i astudio ar ein Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd neu ar ein Campws y Barri yn y Fro.
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
Gwasanaethau Cyhoeddus | L1 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd |
Gwasanaethau Cyhoeddus | L2 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd |
Gwasanaethau Cyhoeddus | L3 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd Campws y Barri |
HND mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng | L5 Llawn Amser | 8 Medi 2025 | Campws y Barri |