Mae peirianneg yn datblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy ac yn arwain at ystod enfawr o yrfaoedd yn y dyfodol.
Mae peirianneg yn ymwneud â phopeth o’n cwmpas – peiriannau, ffonau symudol, adeiladau, ynni – mae peirianwyr yn ymwneud â dylunio, datblygu, profi a datrys problemau. Dysgwch yn ein cyfleusterau peirianneg arbenigol gydag athrawon profiadol yn y diwydiant. Dewiswch o blith Peirianneg sy’n cwmpasu peirianneg fecanyddol, drydanol, electronig a chyffredinol, neu Beirianneg gydag arbenigedd o Weithgynhyrchu Uwch, Peirianneg Electronig neu Roboteg a Seiber. Mae pob opsiwn yn rhoi sylfaen wych o sgiliau i chi ddatblygu i gyflogaeth, prentisiaeth neu brifysgol. Manteisiwch ar ddysgu a phrofiadau peirianyddol go iawn trwy gydol eich cwrs. Mae CCAF yn cysylltu â busnesau a darparwyr addysg ar draws y wlad a hyd yn oed y byd! Eleni, ymwelodd myfyrwyr ag amrywiaeth eang o gyflogwyr, prifysgolion sy’n bartneriaid a’r Sefydliad Technoleg yn Siapan!
Datblygwch sgiliau defnyddiol a chymwysterau diwydiant fel rhan o’ch cwrs, gan gynnwys Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a Thechnoleg Gwyrdd, gyda phob un yn cynyddu eich cyflogadwyedd.
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
Cyflwyniad i Weldio Metel Anadweithiol (MIG) | L1 Rhan Amser | 16 Ionawr 2025 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd Gwyrdd mewn Peirianneg | L2 Rhan Amser | 3 Chwefror 2025 | Ar-lein ac ar y Campws |
Technolegau Peirianneg (Canolradd) | L2 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Campws y Barri |
Mynediad i Beirianneg (Mathemateg, Ffiseg a Pheirianneg) | L3 Llawn Amser | 3 Medi 2025 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Technolegau Peirianneg (Uwch / Gwell) | L3 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Campws y Barri |
HNC mewn Peirianneg | L4 Rhan Amser | 16 Medi 2025 | Campws y Barri |
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
Technolegau Peirianneg (Cyflwyniad) | L1 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Campws y Barri |
Electroneg, Roboteg a Seiberddiogelwch | L2 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Campws y Barri |
Peirianneg Drydanol/Electronig (Canolradd) | L2 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Arolygu a Phrofi Cychwynnol ac Achlysurol o Osodiadau Trydanol - Dyfarniad | L3 Rhan Amser | 12 Chwefror 2025 12 Mawrth 2025 4 Mehefin 2025 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Mynediad i Beirianneg (Mathemateg, Ffiseg a Pheirianneg) | L3 Llawn Amser | 3 Medi 2025 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Peirianneg Drydanol/Electronig (Uwch) | L3 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |