Oes gennych chi angerdd am gemau cyfrifiadurol? Mae Esports yn ddiwydiant byd-eang sy’n tyfu’n gyflym ac sy’n cynnig llawer o lwybrau gyrfa o reoli digwyddiadau, hyfforddi, newyddiaduraeth a marchnata.
Ar gwrs Esports byddwch yn datblygu gwybodaeth sector-benodol, yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. Byddwch yn dysgu am sefydliadau gemau cyfrifiadurol, gwaith tîm, lles, cynllunio digwyddiadau, datblygu cynnwys a ffrydio gemau. Mae astudio lefel uwch yn cynnwys dealltwriaeth o dimau hyfforddi, strategaethau, dadansoddi a thactegau, menter ac entrepreneuriaeth a seicoleg chwaraeon.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i chwarae fel rhan o dîm cystadleuol a chymryd rhan mewn twrnameintiau. Byddwch yn dysgu mewn cyfleusterau gemau cyfrifiadurol o safon uchel gyda’r caledwedd diweddaraf i alluogi chwarae cystadleuol ar lefel broffesiynol.
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
E-chwaraeon | L2 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
E-chwaraeon | L3 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
L5 Llawn Amser | 8 Medi 2025 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |