Os ydych chi'n meddwl am fynd i’r Coleg, mae ymweld â ni mewn Noson Agored yn ffordd wych o ddysgu mwy. Mewn Noson Agored, gallwch siarad â thiwtoriaid am gyrsiau sydd o ddiddordeb i chi, mynd ar daith o amgylch y cyfleusterau’r safle, cael cyngor ac arweiniad a dysgu am y gefnogaeth a’r cyfleoedd a gynigir gan y Coleg. Gallwch hyd yn oed gael help gan staff cyfeillgar i wneud cais ar y pryd.
Academi Celfyddydau Noson Agored
Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2024 - Academi Gelfyddydau, Caerdydd
Mae’r Noson Agored hon ar gyfer rhai a fydd yn hŷn nag 18 mlwydd oed erbyn Medi 2025 yn unig, ac sy’n gobeithio astudio un o’n cyrsiau celfyddydau creadigol ar y campws hwn.
Nosweithiau Agored mis Chwefror
Caerdydd
Dydd Mawrth, Chwefror 4ydd, 2025 – Campws Canol y Ddinas
Bro Morgannwg
Dydd Mercher, Chwefror 5ed, 2025 – Campws Y Barri
Dydd Mercher, Chwefror 5ed, 2025 – Campws Y ICAT
Byddwn hefyd yn cynnal Nosweithiau Agored yn nes ymlaen yn y flwyddyn academaidd.
Rydym yn argymell eich bod yn mynychu’r digwyddiad sy’n lleol i chi, ac yn ymgeisio am le’n fuan.
Nosweithiau Agored Mis Ebrill
Caerdydd
Bro Morgannwg
Mae’r system archebu lle yn fyw yn awr ar gyfer y nosweithiau agored cyntaf. Bydd modd archebu lle yn y gweddill ar ôl y rhain.