Mae cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch wedi'u cynllunio i roi'r hyder a'r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr aeddfed i ymdopi â gofynion academaidd astudio lefel uwch. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr aeddfed sydd wedi penderfynu newid gyrfa yn arbennig, neu sy'n dychwelyd i astudio ar ôl seibiant.
Mae'r cwrs Mynediad i Astudio Pellach yn gwrs dwys am flwyddyn sy'n datblygu sgiliau presennol. Byddwch yn astudio TGAU Saesneg a Mathemateg, ac fel rhan o Ddiploma Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach Agored byddwch yn astudio Gwyddoniaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, Mathemateg, TG a Sgiliau Astudio. Bydd sesiynau tiwtorial yn cael eu cynnal bob wythnos i ystyried llwybrau dilyniant a chefnogaeth drwy eich astudiaethau.
| Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
|---|---|---|---|
| Mynediad i Astudio Pellach | L2 Llawn Amser | 1 Medi 2026 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd Campws y Barri |
| Mynediad i Astudio Pellach ESOL | L2 Llawn Amser | 1 Medi 2026 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
| Mynediad i’r Gwyddorau Iechyd (Bioleg, Cemeg a Gofal Iechyd) | L3 Llawn Amser | 2 Medi 2026 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
| Mynediad i Addysgu’r Blynyddoedd Cynnar | L3 Llawn Amser | 8 Medi 2026 | Campws y Barri |
| Mynediad i Beirianneg (Mathemateg, Ffiseg a Pheirianneg) | L3 Llawn Amser | 1 Medi 2026 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
| Mynediad i Gyfrifiadura Cymhwysol (Systemau Gwybodaeth a Chyfrifiaduron, Datblygu Meddalwedd a Dylunio Cyfrifiaduron) | L3 Llawn Amser | 1 Medi 2026 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
| Mynediad i Nyrsio a Bydwreigiaeth | L3 Llawn Amser | 8 Medi 2026 | Campws Dwyrain Caerdydd Campws y Barri |
| Mynediad i'r Biowyddorau (Bioleg, Biocemeg a Chemeg) | L3 Llawn Amser | 1 Medi 2026 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
| Mynediad i'r Dyniaethau (Llenyddiaeth, Hanes a Chymdeithaseg) | L3 Llawn Amser | 7 Medi 2026 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
| Mynediad i'r Gwaith Cymdeithasol | L3 Llawn Amser | 7 Medi 2026 | Campws Dwyrain Caerdydd |
| Mynediad i'r Gwyddorau Cymdeithasol (Seicoleg, y Gyfraith a Chymdeithaseg) | L3 Llawn Amser | 8 Medi 2026 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |