Arlwyo a Lletygarwch
Cyfle i ennill cymwysterau diwydiant a phrofiad i ddechrau ar eich gyrfa fel Cogydd, Pobydd neu arbenigwr Blaen Ty.
Am Arlwyo a Lletygarwch
Mae ein cyrsiau arlwyo a lletygarwch yn cynnig cyfle i chi ennill y wybodaeth, y sgiliau, y profiad a’r cymwysterau a gydnabyddir gan ddiwydiant i ddechrau gyrfa fel Cogydd, Pobydd neu arbenigwr Blaen Tyˆ.
Byddwch yn dysgu mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf gan gynnwys, ceginau hyfforddi enfawr, becws ac yn ein bwytai masnachol — ‘Y Dosbarth’ ac ‘Ystafell Morgannwg’.
Mae pob aelod o staff yn arbenigwyr yn y diwydiant a chewch elwa hefyd o ddosbarthiadau meistr drwy ymweld â chogyddion gorau y DU.
Eich CAVC
Mae ein bwyty Y Dosbarth wedi ennill y Rhoséd AA Coleg cyntaf yng Nghymru, yn ogystal â chael ei enwi’n Fwyty’r Flwyddyn yn 2017 yng Ngwobrau Bywyd Caerdydd. Mae ein myfyrwyr hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ryngwladol fawreddog i gogyddion ifanc yr Olympiad Rhyngwladol i Gogyddion Ifanc 2019 a gynhaliwyd yn India.
Eich Diwydiant
Ar hyn o bryd, yn Ne Cymru mae yna dros 59,000 o swyddi yn y sector lletygarwch a rhagwelir y bydd y nifer yn tyfu i 4.1% erbyn 2024. (EMSI 2018). Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu tyfu’r diwydiant yn sylweddol ac mae wedi rhoi cynllun gweithredu ar waith, gan greu mwy o swyddi a chyfleoedd i’r diwydiant.
Eich Dyfodol
Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dewis symud ymlaen i ddiwydiant, gan ennill cyflogaeth y tu ôl i’r tyˆ (e.e. fel cogyddion, cogyddion crwst neu bobyddion), neu ym mlaen y tyˆ. Mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio mewn bwytai sydd â sêr Michelin a lleoliadau pum seren ar draws Cymru, y DU a’r byd.
Arlwyo, Pobi a Lletygarwch
Yr holl opsiynau Arlwyo a Lletygarwch
Lefel
Dyddiadau dechrau ar gael
Lleoliadau ar gael
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
Lletygarwch | L1 Llawn Amser | 5 Medi 2022 | Campws Dwyrain Caerdydd |
Lletygarwch | L1 Llawn Amser | 5 Medi 2022 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd Campws y Barri |
Coginio Proffesiynol | L2 Llawn Amser | 7 Tachwedd 2022 | Campws y Barri |
Lletygarwch | L2 Llawn Amser | 5 Medi 2022 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Pobydd, Patisserie a Melysion | L2 Llawn Amser | 5 Medi 2022 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Goruchwyliaeth Lletygarwch | L3 Llawn Amser | 5 Medi 2022 | Campws y Barri |
Goruchwyliaeth Lletygarwch | L3 Llawn Amser | 5 Medi 2022 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Lletygarwch - Blaen y Tŷ | L3 Llawn Amser | 5 Medi 2022 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Pobydd, Patisserie a Melysion | L3 Llawn Amser | 5 Medi 2022 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Rheoli Lletygarwch | L4 Rhan Amser | 3 Hydref 2022 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Cyrsiau Proffesiynol
Yr holl opsiynau Arlwyo a Lletygarwch
Lefel
Dyddiadau dechrau ar gael
Lleoliadau ar gael
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
Gwaith Bar Proffesiynol | L2 Rhan Amser | Cysylltwch â ni i gael dyddiadau. | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Tystysgrif FDQ mewn Pobi | L2 Rhan Amser | 12 Medi 2022 | Campws y Barri |