Mae ein safleoedd a’n cyfleusterau heb eu hail ac yn cynnwys ein Campws Canol y Ddinas adnabyddus werth £45m, Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd, Campws Cymunedol Eastern a Champws y Barri – y cwbl yn cartrefu ystod enfawr o ddysgu a chyfleusterau. Hefyd, mae gennym ganolfannau arbenigol pwrpasol mewn Awyrofod, Gwaith Modurol, Gwasanaethau Adeiladu ac Adeiladwaith ledled y rhanbarth.
Mae ein safleoedd hefyd yn cartrefu amrywiaeth o gyfleusterau gwych sydd ar gael i’r gymuned ac sy’n agored i’r cyhoedd, gan gynnwys tai bwyta, salonau, sbaon a siopau coffi a siopau hynod lwyddiannus.