Hyfforddwch ar gyfer gyrfa mewn Peirianneg Awyrofod gyda chyfleoedd cyffrous i weithio yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae ein cyrsiau Peirianneg Awyrofod i gyd wedi eu lleoli yn ein Canolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod (ICAT) – cyfleuster uchel ei glod – â’r pwrpas arbennig o hyfforddi talent y dyfodol ar gyfer y diwydiant cyffrous hwn.
Mae’r ganolfan eiconig hon yn cynnwys gweithdai arbenigol, labordai ac awyrendy go-iawn anferth i chi ddatblygu eich sgiliau ymarferol. Mae cysylltiadau gwych gan y Ganolfan gyda diwydiant, gan gynnwys British Airways, Boeing, GE a Caerdav. Mae hyn yn golygu y byddwch yn datblygu gwybodaeth, sgiliau a chymwysterau’r diwydiant ar eich cwrs, yn ogystal â lleoliadau gwaith yn y diwydiant – sydd i gyd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant awyrofod. Mae rhai dysgwyr hyd yn oed yn mynd ymlaen i ddechrau gyrfaoedd gyda’r cwmnïau hyn yn syth ar ôl y coleg.
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
Peirianneg Awyrennau | L2 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod |
Peirianneg Awyrenegol | L3 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod |
Ychwanegiad at Radd HND, BEng (Anrh) mewn Peirianneg Awyrennau gan Brifysgol Kingston | L6 Llawn Amser | 16 Medi 2025 | Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod |
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
Dronau - Cyflwyniad i Reoli Hedfan | L1 Rhan Amser | 23 Tachwedd 2024 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Systemau Cydgysylltiad Gwifriad Trydanol Awyrennau (EWIS) | L1 Rhan Amser | 24 Chwefror 2025 | Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod |
Peirianneg Awyrenegol - Sgiliau Llaw Sylfaenol | L2 Rhan Amser | Cysylltwch â ni i gael dyddiadau. | Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod |
Rhan66 B1.1 Trwydded Dysgu o Bell (Y Lluoedd Arfog) | L4 Rhan Amser | Cysylltwch â ni i gael dyddiadau. | Ar-lein |