Teithio a Thwristiaeth

Mae ein cyrsiau teithio a thwristiaeth yn datblygu eich sgiliau a'ch profiad ac yn darparu cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant er mwyn agor drysau ar yrfa yn y diwydiant.

Am Deithio a Thwristiaeth

Hoffech chi yrfa yn y diwydiant teithio a thwristiaeth, gyda chyfleoedd cyffrous i weithio ledled Cymru neu’n fyd-eang?

Mae ein cyrsiau teithio a thwristiaeth yn datblygu eich sgiliau a’ch profiad ac yn darparu cymwysterau a gydnabyddir gan ddiwydiant i agor drysau i yrfa yn y diwydiant. Byddwch yn astudio modiwlau gan gynnwys cyrchfannau teithio, ieithoedd tramor, gwasanaeth cwsmeriaid a chymorth cyntaf a gallwch ennill profiad trwy ymweld ag arbenigwyr yn y diwydiant, ymweld â safleoedd a lleoliadau gwaith mewn cyrchfannau ac atyniadau i dwristiaid yng Nghymru a thu hwnt.

Eich CAVC

Mae gan y Coleg lawer o gysylltiadau â diwydiant sy’n cynnig cyfleoedd i siaradwyr gwadd draddodi, profiad gwaith a lleoliadau gwaith i fyfyrwyr mewn cwmnïau megis British Airways, TUI a Virgin Atlantic, yn ogystal â chyrchfannau twristiaid ledled y DU ac yn rhyngwladol!

Eich Diwydiant

Mae’r diwydiant Twristiaeth yng Nghymru werth £6.3 biliwn. Ar hyn o bryd, mae tua 65,000 o bobl yn cael eu cyflogi ym Mhrifddinas- Ranbarth Caerdydd. Rhagwelir y bydd twf o bron i 5% yn hyn, gan arwain at 3,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025 (EMSI 2021).

Eich Dyfodol

Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd yn syth i gyflogaeth mewn rolau mewn gwestai, yn rheoli digwyddiadau, atyniadau twristiaid a chyrchfannau gwyliau. Mae ein cwrs Lefel 3 yn cynnwys ein cwrs Criw Caban enwog. Mae’r cwrs unigryw hwn wedi gweld llawer o fyfyrwyr yn cael gwaith gyda chwmnïau hedfan gan gynnwys Emirates, British Airways, Virgin, EasyJet, TUI ac eraill. Mae myfyrwyr eraill yn dewis symud ymlaen i brifysgol i astudio pynciau gan gynnwys Twristiaeth neu Reoli Digwyddiadau.

Yr holl opsiynau Teithio a Thwristiaeth

Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Enw’r cwrs
Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Twristiaeth L2 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd Campws y Barri
Twristiaeth a Chriw Caban L3 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd Campws y Barri