Addysg Sylfaenol i Oedolion - Saesneg, Mathemateg a Llythrennedd Digidol

Datblygwch eich sgiliau gyda chyrsiau Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol yn dechrau ym mis Medi, Ionawr ac Ebrill.

Sgiliau Sylfaenol i Oedolion - Saesneg, Mathemateg a TG

Gallai astudio cwrs Saesneg (Cyfathrebu), Mathemateg (Cymhwyso Rhif) neu Lythrennedd Digidol ar gyfer Oedolion gyda Choleg Caerdydd a'r Fro eich helpu i:

  • Ennill cymhwyster (Sgiliau Allweddol neu Agored)
  • Paratoi ar gyfer gwaith neu gwrs coleg pellach
  • Gwella sgiliau bob dydd
  • Magu hyder i gefnogi gwaith neu fywyd bob dydd 

Mae dosbarthiadau addas i bawb, o Lefel Mynediad 1 i Lefel 2 gyda dyddiadau ac amseroedd i ffitio o amgylch eich bywyd.

Mae cyrsiau’n dechrau ym mis Medi, Ionawr ac Ebrill. 

Cyn i chi ymrestru ar y cwrs cywir i chi, byddwch yn cwblhau proses sgrinio i bennu eich lefel gychwynnol ac yn cael sgwrs gyda thiwtor neu gynghorydd fel y gallwn eich gosod yn y dosbarth cywir i chi.

Mae’r cyrsiau 11 wythnos yn rhedeg am 6 awr yr wythnos a bydd yn gymysgedd o addysgu wyneb yn wyneb, ar-lein ac astudio annibynnol. Mae disgwyl i chi ymrwymo i’r 6 awr lawn. Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost at: abe@cavc.ac.uk

Os yw Saesneg yn ail iaith i chi ac os oes angen cwrs ESOL arnoch, cliciwch yma. 

Lleoliad cyrsiau

Mae’r lleoliadau’n amrywio ar gyfer pob cwrs.

#EichCAVC

Mae ein cyrsiau Sgiliau Sylfaenol i Oedolion wedi'u cynllunio i gyd-fynd â'ch bywyd chi, a dim ond £10 yw ffioedd y cwrs! O ddydd Llun i ddydd Gwener rydym yn ymdrin â Saesneg, Mathemateg a TGCh, felly wnewch chi ddim colli'r cyfle i ddychwelyd i fyd addysg.

#EichDyfodol

Mae eich dyfodol yn bwysig i ni ac rydym yn gobeithio y bydd y cyrsiau hyn yn rhoi hwb i chi fwrw ymlaen gartref, yn y gwaith ac mewn addysg. Gallwch ddysgu mwy am eich llwybrau datblygu drwy siarad â'ch tiwtor neu ein staff cefnogi cyfeillgar.

Cyrsiau Sgiliau Sylfaenol i Oedolion

Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Enw’r cwrs
Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Sgiliau Allweddol Cyfathrebu - Lefel 2 L2 Rhan Amser 5 Ionawr 2025 6 Ebrill 2025 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Sgiliau Cyflogadwyedd L2 Rhan Amser 5 Ionawr 2025 6 Ebrill 2025 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif L2 Rhan Amser 5 Ionawr 2025 6 Ebrill 2025 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol L2 Rhan Amser 5 Ionawr 2025 6 Ebrill 2025 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Cyflogadwyedd Hanfodol i Oedolion EL2 - L1 EL1 Rhan Amser 5 Ionawr 2025 6 Ebrill 2025 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Sgiliau Digidol i Oedolion EL2 - L1 EL1 Rhan Amser 5 Ionawr 2025 6 Ebrill 2025 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Sgiliau Mathemateg i Oedolion EL2 - L1 EL1 Rhan Amser 5 Ionawr 2025 6 Ebrill 2025 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Sgiliau Saesneg i Oedolion EL2 - L1 EL1 Rhan Amser 5 Ionawr 2025 6 Ebrill 2025 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd