ESOL ac ESOL +

Cyrsiau i wella eich Saesneg a hyfforddi ar gyfer gyrfa.

Am ESOL ac ESOL+

Mae CCAF yn gweithio gyda llawer o bobl ifanc nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf yn flynyddol.
Yn y Coleg gallwch astudio Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) ar y lefel gywir i chi a dechrau hyfforddi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol ar yr un pryd. Byddwch yn gwella eich sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yn Saesneg. Bydd hyn yn eich helpu mewn bywyd a gwaith yn y dyfodol. Ar y cwrs ESOL+ byddwch yn ennill sgiliau, profiad a chymwysterau ar gyfer gyrfa yn y dyfodol ar yr un pryd ac ar yr un campws coleg.

Mae cwrs ESOL ar gael yn:

  • 6 awr yr wythnos neu
  • 16 awr yr wythnos

Eich CCAF

Mae CCAF yn gweithio gyda miloedd o bobl bob blwyddyn i wella eu Saesneg ar gwrs ESOL. Rydyn ni’n sicrhau eich bod chi’n dysgu Saesneg ar y lefel iawn i chi. Pan fyddwch yn gwneud cais, rydym yn eich gwahodd i’r coleg i gwrdd â’n tîm cyfeillgar yn ein Canolfan REACH. Maen nhw’n gwirio pa lefel sy’n iawn i chi pan fyddwch chi’n dechrau.

Eich Dyfodol

Ar ôl gorffen ESOL+ mae llawer o bobl ifanc yn astudio cwrs lefel uwch yn y coleg. Mae rhai myfyrwyr ESOL+ yn defnyddio’r sgiliau a’r cymwysterau y maent wedi’u hennill i fynd yn syth i waith.

Yr holl opsiynau ESOL ac ESOL+

Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Enw’r cwrs
Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
ESOL + Adeiladu EL3 Llawn Amser 1 Medi 2025 Un Parêd y Gamlas
ESOL Sgiliau ar Gyfer Cyflogaeth L1 Llawn Amser 1 Medi 2025 Un Parêd y Gamlas
ESOL+ L2 Llawn Amser 1 Medi 2025 Un Parêd y Gamlas
ESOL+ Gweinyddiaeth Busnes / Iechyd a Gofal Cymdeithasol L2 Llawn Amser 1 Medi 2025 Un Parêd y Gamlas