Trowch eich angerdd am chwaraeon yn yrfa. Gall astudio chwaraeon fod yn llwybr i ystod eang o yrfaoedd gan gynnwys hyfforddi, addysgu, seicoleg chwaraeon, iechyd a lles, hyfforddwr ffitrwydd, rheoli chwaraeon a hamdden a mwy.
Byddwch wedi’ch lleoli ar Gampws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd (CISC) – ein cartref ysbrydoledig ar gyfer chwaraeon, gydag ystafelloedd dosbarth a mannau dysgu yn ogystal â champfa fawr, stiwdios ffitrwydd, caeau 3G awyr agored a dan do a thrac athletau. Byddwch hefyd yn elwa o athrawon arbenigol, siaradwyr gwadd a chyfleoedd i roi theori ar waith yn cynnal sesiynau hyfforddi neu’n ymgymryd â lleoliadau gwaith.
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
Chwaraeon | L1 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd |
Chwaraeon | L2 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd |
Hyfforddi Ymarfer Corff a Ffitrwydd | L2 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd |
Chwaraeon (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff) | L3 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd |
Hyfforddi Chwaraeon | L3 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd |
Hyfforddwr Personol | L3 Llawn Amser | 1 Medi 2025 | Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd |
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
Hyfforddwr Ffitrwydd | L2 Rhan Amser | 3 Mawrth 2025 | Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd |
Hyfforddwr Personol | L3 Rhan Amser | 3 Mawrth 2025 | Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd |