Rydym yn cynnig nifer o gymwysterau TGAU ar sail rhan amser, o’r cwrs Mathemateg i’r cwrs Cymraeg. Darperir y rhain gyda’r nos yn bennaf, i ffitio o amgylch eich ymrwymiadau bywyd a gwaith. Mae dyddiadau cychwyn yn amrywio ac fe’u darperir ar draws amrywiaeth o gampysau a lleoliadau, gyda rhai cyrsiau ar gael ar-lein hyd yn oed.
Ail-sefyll
Os ydych yn dilyn rhaglen llawn amser yn CCAF ac os oes angen ichi ail-sefyll eich cymhwyster Mathemateg a/neu Saesneg, gallwch ail-sefyll ochr yn ochr â’ch cwrs, ar yr amod eich bod wedi ennill gradd D neu uwch. Bydd hyn yn cael ei gynnwys o fewn eich rhaglen llawn amser.
Rydym hefyd yn darparu cyrsiau Sgiliau Hanfodol mewn Mathemateg a Saesneg.
Bydd ein tiwtoriaid yn trafod ac yn cytuno ar y cynllun gorau i chi ar ôl gweld eich canlyniadau wrth gofrestru.
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
Almaeneg -TGAU | L2 Rhan Amser | 1 Medi 2025 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Bioleg - TGAU | L2 Rhan Amser | 1 Medi 2025 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Cymraeg Ail Iaith - TGAU | L2 Rhan Amser | 1 Medi 2025 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Ffrangeg - TGAU | L2 Rhan Amser | 1 Medi 2025 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Iaith Saesneg - TGAU | L2 Rhan Amser | 1 Medi 2025 5 Medi 2025 11 Tachwedd 2025 | Ar-lein Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Mathemateg - TGAU | L2 Rhan Amser | 1 Medi 2025 18 Tachwedd 2025 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd Campws y Barri |
Sbaen - TGAU | L2 Rhan Amser | 1 Medi 2025 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |