Datganiad Hygyrchedd

Mae coleg Caerdydd a'r Fro yn ymdrechu i ddarparu gwefan sy'n hygyrch i bob defnyddiwr (porwr a hygyrchedd defnyddiwr).

Cydymffurfio gyda Safonau

Mae gwefan Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ei greu, dylunio a phrofi yn unol â chanllawiau hygyrchedd cynnwys y we World Wide Web Consortium's (W3C). Mae W3C yn gonsortiwm rhyngwladol syn gyfrifol am ddatblygu safonau ac arferion y we.

Cyn belled ag sy'n bosib, rydym wedi ceisio sicrhau:

  • Pob tudalen ar y wefan yn gymwys fel cydymffurfiaeth HTML 5

  • Pob tudalen ar y wefan yn cydymffurfio â blaenoriaeth 1 ac yn y mwyafrif o achosion blaenoriaeth 2 [Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefan W3C] (https://www.w3.org/TR/WCAG21/) 

Maint Ffont

Beth yw browsealoud?

Mae browsealoud yn darllen cynnwys gwefan yn uchel gan ddefnyddio'r llais mwyaf naturiol a deniadol i drawsffurfio'ch profiad darllen ar-lein. Nodweddion newydd yn cynnwys: Cyfieithydd, Symleiddiwr, Masgio Sgriniau i Declynnau Sgrin Gyffwrdd a'r gallu i bersonoleiddio'r gosodiadau i gyd-fynd ag anghenion a ffafriaeth yr unigolyn. 

Nodweddion eraill yn cynnwys:

  • Amlygu Lliwiau Deuol
  • Chwyddo Ysgrifen
  • Cyfieithydd
  • Cynhyrchydd MP3
  • Masgio Sgriniau
  • Addasydd Ynganiad
  • Darllen Safleoedd Diogel
  • Darllen PDF
  • Ieithoedd Rhyngwladol

Mae browsealoud yn helpu ymwelwyr gwefannau sydd angen cymorth i ddarllen ar-lein, yn ogystal â'r rheiny sydd well ganddynt wrando ar wybodaeth yn hytrach na'i darllen ei hunain. Mae browsealoud yn arbennig o ddefnyddiol i bobl sydd ag anableddau print megis dyslecsia neu namau gweld ysgafn, a'r rheiny â Saesneg fel ail iaith.

Sut ydw i'n defnyddio browsealoud?

Pwyswch ar fotwm lansio browsealoud sy'n ymddangos ar frig gwaelod ochr chwith y wefan hon i lansio bar offer browsealoud ac yna cliciwch ar unrhyw ysgrifen i'w chlywed yn cael ei darllen yn uchel.

Linciau

Mae yna deitl ar sawl inc sy'n disgrifio'r linc yn fanylach. Caiff linciau eu hysgrifennu i wneud synnwyr pa maent allan o'u cyd-destun.

Lluniau

Mae pob llun ar y wefan, lle bo'n bosib yn cynnwys rhinweddau disgrifio ALT.

Maint Ffont

Sut i newid maint ffont yn eich porwr:

  • Yn Internet Explorer: dewis botwm ‘Page’, dewis ‘Text size’, yna dewis y maint rydych eisiau.
  • Yn Google Chrome: dewis bwydlen Chromear bar y porwr, dewis ‘Settings’. Dewis ‘Show advanced settings’. Yn yr adran ‘Web Content’, dewis y fwylden ‘Font size’ i wneud addasiadau.
  • Yn Mozilla Firefox: mynd i ‘Tools’, yna ‘Options’, yna ‘Content’ ac yna ‘Fonts and Colors’. Gallwch newid y maint yma

Dyluniad gweledol

Mae'r wefan yma yn defnyddio taflenni 'cascading' argyfer dyluniadau gweledol. Os nad yw eich porwr yn cefnogi hyn yna dylech allu parhau i weld y dudalen.

Rhowch wybod i ni beth rydych yn ei feddwl

Os ydych wedi mwynhau ymweld â gwefan CAVC neu os ydych wedi cael trafferth gydag unrhyw ran ohono, cysylltwch. Hoffwn glywed gennych drwy un o'r dulliau canlynol: