Cymraeg

Mae CAVC yn falch o fod yn Gymraeg.

Mae gan bawb hawl i gyfathrebu a derbyn gwasanaethau gennym ni yn y Gymraeg ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cyfle hwnnw i’n dysgwyr ni, ein cyflogeion a’n hymwelwyr.

Fel rhan o’r ddeddfwriaeth newydd, yng Nghymru mae gan yr iaith Gymraeg statws cyfreithiol cyfartal â’r Saesneg ac ni ddylid ei thrin yn llai ffafriol. Fel corff cyhoeddus rydyn ni’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth hon drwy gyfrwng cyfres o Safonau’r Gymraeg y mae’n rhaid i ni gydymffurfio â hwy. 

Isod mae dolen i Safonau’r Gymraeg y mae’n rhaid i Goleg Caerdydd a’r Fro gydymffurfio â hwy:

Safonau’r Iaith Gymraeg CAVC (Hysbysiad Cydymffurfiaeth Derfynol)

Isod mae dolen at ddogfen gryno i helpu i esbonio sut bydd CCAF yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a beth mae’n ei olygu i’r gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu i chi:

Cydymffurfiaeth â Safonau’r Iaith Gymraeg CAVC

Polisi’r Iaith Gymraeg CAVC

Beth os ydych chi’n meddwl nad ydyn ni’n cyflawni ein dyletswydd?

Rydyn ni’n ceisio cydymffurfio â’n safonau’n llwyr a darparu gwasanaeth cynhwysfawr i unrhyw un sy’n dewis cyfathrebu â ni neu gael mynediad i’n gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydyn ni’n ymddiheuro os byddwn yn llithro a hoffem i chi ddweud wrthyn ni os ydych chi’n teimlo nad ydyn ni wedi cyflawni ein dyletswydd fel y nodir yn y safonau, fel ein bod yn gallu cymryd camau i wneud iawn am hynny.

Mae CAVC wedi ymrwymo i ddelio'n effeithiol ag unrhyw bryderon, sylwadau neu gwynion am ein cydymffurfiaeth â'n safonau darparu gwasanaethau, llunio polisïau a safonau gweithredu.

Cewch wybod mwy am y broses sydd gennym ni yn ei lle i ddelio’n benodol ag unrhyw gŵyn drwy glicio yma.   

Cysylltwch â ni

Ebostiwch Cymraeg@cavc.ac.uk am fwy o wybodaeth 

Dathlu popeth Cymraeg

Adroddiad Blynyddol Cydymffurfiaeth â’r Gymraeg, ei Darpariaeth a’i Hyrwyddo yn Coleg Caerdydd a’r Fro.

Yn yr adroddiad hwn rhoddir trosolwg o’n gwaith yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23 ar ‘Ddathlu popeth Cymraeg’ — gan gynnwys ein darpariaeth a chymorth i ddysgwyr a’n gwaith yn hyrwyddo’r Gymraeg. Mae hefyd yn rhoi’r wybodaeth ofynnol i ddangos sut ydym wedi cydymffurfio â’n Safonau Cymraeg yn ystod y flwyddyn — dyletswydd statudol i’r Coleg.

Mae’r adroddiad hwn yn myfyrio ar weithgareddau blwyddyn academaidd 2022-23, ac mae’r data yn berthnasol i’r cyfnod rhwng 1 Awst 2022 a 31 Gorffennaf 2023.

Adroddiad Blynyddol CAVC ar gyfer Safonau’r Iaith Gymraeg 2022-2023

Siarad Dysgu Byw

Bob blwyddyn rydym yn gwella’r cyfleoedd a’r gefnogaeth i fyfyrwyr sy’n dod o ysgolion cyfrwng Cymraeg ar draws y rhanbarth, i barhau i ddysgu’n ddwyieithog a thrwy gyfrwng y Gymraeg.

Falch o fod yn Gymreig

Ni yw CAVC
Cyflogwyr Lleol
Rhaglen Cymraeg Gwaith