Swyddi

Cymerwch olwg ar y cyfleoedd gyrfa diweddaraf yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro

Gweithio i CCAF

Gyrfaoedd sy’n gwneud gwahaniaeth


A ydych yn chwilio am yrfa lle gallwch wirioneddol wneud gwahaniaeth? Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro (CCAF), rydym yn fwy na dim ond darparwr addysg. Fel un o’r grwpiau colegau mwyaf yn y DU, rydym yn gymuned ddeinamig a blaengar gyda mwy na 1000 o arbenigwyr pwnc ac arbenigwyr diwydiant. Rydym yn hyfforddi a chefnogi 30,000 o ddysgwyr yn flynyddol mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf, yn y gymuned a’r gweithle ledled y rhanbarth, y DU a thu hwnt. 

P’un a ydych yn weithiwr proffesiynol profiadol neu ar gychwyn eich gyrfa, mae CCAF yn cynnig amgylchedd cefnogol, cynhwysol sy’n rhoi boddhad, lle gallwch dyfu a ffynnu.

Dewch o hyd i’ch dyfodol yn CCAF

Y dudalen hon yw eich porth i gyfleoedd gyrfa cyffrous yn CCAF. Yma, fe ddewch o hyd i’n swyddi gwag diweddaraf ar draws ystod eang o rolau; gwybodaeth am weithio yn CCAF, o’n diwylliant i’n buddion, a mewnwelediadau i sut ydym yn cefnogi ein cydweithwyr i ddatblygu eu gyrfa a’u llesiant.

Pam ymuno â'n tîm?

Yn CCAF, rydym yn credu mewn buddsoddi yn ein pobl. Fel rhan o’n tîm, byddwch yn elwa o:

  • Amgylchedd gwaith arloesol a chydweithredol
  • Cyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa a datblygu’n broffesiynol
  • Ffocws ar lesiant, gan gynnwys cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
  • Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau ein dysgwyr a’r gymuned ehangach.  

Gallwch archwilio ein cyfleoedd a dysgu mwy am ymuno â CCAF heddiw!

Gwyliwch ein fideo recriwtio diweddaraf

Cyfamod y Lluoedd Arfog

Yn 2017, llofnododd Coleg Caerdydd a'r Fro Gyfamod y Lluoedd Arfog, sy'n amlygu'r ddyletswydd foesol sydd gan y Llywodraeth a'r genedl tuag at y Lluoedd Arfog. Fel deiliad Gwobr ERS Aur, rydym yn mynd ati'n weithredol i gefnogi'r gymuned filwrol drwy gydnabod y gwerth y mae personél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr a theuluoedd milwrol yn ei gyfrannu at ein sefydliad.

Dangos Ein Hymrwymiad
Trwy lofnodi'r Cyfamod, mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cydnabod bod milwyr wrth gefn a chyn-filwyr yn dod ag amrywiaeth o sgiliau a rhinweddau trosglwyddadwy i'r gweithle sifil, a ddatblygwyd drwy gydol eu gyrfaoedd milwrol. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi'r heriau y gall trosglwyddo i yrfa sifil eu cyflwyno. 

Mae ein Polisi Milwyr Wrth Gefn yn caniatáu hyd at 10 diwrnod o absenoldeb â thâl bob blwyddyn ar gyfer dyletswyddau gyda Lluoedd Ei Fawrhydi, y Fyddin Diriogaethol neu'r Lluoedd Wrth Gefn. 
Rydym yn anelu i gynnal safonau Cyfamod y Lluoedd Arfog drwy:

  • Hyrwyddo'r coleg fel sefydliad sy'n gyfeillgar i'r lluoedd arfog.
  • Darparu cefnogaeth ar gyfer ceisiadau swydd drwy ein gweithwyr proffesiynol Adnoddau Dynol.
  • Darparu hyfforddiant a chefnogaeth ar sgiliau cyfweld pan ofynnir am hynny.
  • Annog cefnogaeth i elusennau milwrol drwy godi arian, cynnig cyngor a darparu cymorth.
  • Ceisio cefnogi ein gweithwyr sy'n dewis bod yn aelodau o'r Lluoedd Wrth Gefn drwy hwyluso eu hyfforddiant a'u hanfon ar wasanaeth gweithredol lle bo hynny'n bosibl.

Swyddi gwag presennol

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant