Barista

L2 Lefel 2
Rhan Amser
11 Tachwedd 2024 — 13 Rhagfyr 2024
Campws y Barri
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cymhwyster hwn yn darparu sgiliau a gwybodaeth arbenigol i ddysgwyr yn un o'r meysydd twf mawr yn y diwydiant lletygarwch - y sector diod. Mae’r uned wedi’i hanelu at weithredwyr y llinell flaen lle mae coffi’n cael ei weini - mae hyn yn cynnwys bariau coffi, tai coffi, caffis, gwestai a bwytai.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r uned yn cwmpasu pwysigrwydd cyflwyno delwedd bersonol gadarnhaol a'r defnydd o dechnegau cyfathrebu effeithiol.Mae pedwar canlyniad dysgu i'r uned hon.  

Bydd y dysgwr:

  • Yn gallu dangos gwybodaeth am y cynnyrch
  • Yn gallu glanhau a gwirio offer
  • Yn gallu arddangos technegau adeiladu diod
  • Yn gallu gwasanaethu cwsmeriaid

Cynhelir y cwrs am 3 awr yr wythnos am 6 wythnos, sy’n gyfanswm o 18 awr.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Arholiad : £48.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00

Ffi Cwrs: £42.00

Gofynion mynediad

Dim

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

11 Tachwedd 2024

Dyddiad gorffen

13 Rhagfyr 2024

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

4 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CTCR2P20
L2

Cymhwyster

City & Guilds Dyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau Barista

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

78,000

Ar hyn o bryd, mae dros 78,000 o swyddi yn y Sector Lletygarwch ac Arlwyo, a rhagwelir y bydd hyn yn tyfu 6.3% erbyn 2025. (EMSI 2021).

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster gall ymgeiswyr symud ymlaen i gyflogaeth neu ymgymryd â’r cymwysterau City & Guilds canlynol:

• Lefel 2 Gwasanaeth Bwyd a Diod Proffesiynol

• Diploma NVQ Lefel 2/3 mewn Lletygarwch

• Diploma Lefel 3 mewn Arweinyddiaeth a Goruchwylio Lletygarwch (NVQ)

• Cymwysterau Goruchwylio a Rheolaeth y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM)

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ