Mae’r cwrs pobi hwn yn cynnwys cyfuniad o ddysgu ymarferol a theori, ynghyd â gwaith cartref ac elfennau o astudiaethau’r Gymraeg. Mae Sgiliau Hanfodol Cymru yn gydran orfodol, yn ogystal â phynciau ychwanegol sy’n ymwneud a’r diwydiant pobi.
Byddwch yn astudio unedau o lwybr y Dystysgrif neu lwybr y Ddiploma Pobi FDQ ac yn cynhyrchu amrywiaeth o eitemau, gan gynnwys bara, bisgedi, cacennau, a chynnyrch crwst. Caiff asesiadau eu cynnal drwy waith theori a gwaith ymarferol parhaus, ynghyd ag arholiadau a gwaith cartref a osodir.
4 TGAU Graddau A* i D gan gynnwys Saesneg Iaith (neu gyfatebol). Geirda boddhaol gan Diwtor Cwrs. Fel dewis arall, cyflawni Lefel 1 yn llwyddiannus a geirda boddhaol. Geirda boddhaol gan Ysgol neu Goleg i ddynodi ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da.
Mae cyfleusterau’n cynnwys ystafelloedd pobi a cheginau o’r radd flaenaf.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dewisais astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro gan nad oedd yr ysgol yn addas i mi ac nid oedd gennyf ddiddordeb yn unrhyw un o’r pynciau.
Mae’r cwrs Lletygarwch wedi agor cymaint o ddrysau i mi – yn cynnwys cyrraedd rowndiau cyn-derfynol Nestle Torgue d’Or, gan ennill yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ac ennill y ‘Gorau yn y Genedl’ yn WorldSkills yn Lyon yn 2024. Mae’r Coleg wedi rhoi i mi’r sgiliau i gyflawni fy nodau ac wedi fy helpu i gael swydd yn Lucknam Park fel ‘chef de rang’ yn Restaurant Hywel Jones. Yn ddiweddar, bu i mi gwblhau fy HND mewn Rheoli Lletygarwch yn y coleg cyn symud ymlaen i ddechrau cwrs gradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Swydd ran amser neu lawn amser mewn becws, lefelau A neu arlwyo lefel 2 neu 3.