Mae’r cwrs hwn ar gyfer y bobl sy’n dymuno datblygu sgiliau mewn coginio proffesiynol. Bydd y cwrs yn gwella eich gwybodaeth a’ch sgiliau yn y maes lletygarwch ac yn rhoi’r cyfle ichi ennill profiad yn ein bwyty byw neu mewn digwyddiadau allanol a hynny wrth baratoi a choginio bwyd.
Trwy gydol y flwyddyn byddwch yn datblygu sgiliau coginio lefel Dau a hynny wrth ennill profiad mewn gweithleoedd byw sy’n cynnwys bwytai, digwyddiadau, derbyniadau, bwffes, gwasanaeth brecwast hwyr a gweithio’n allanol â busnesau partner lleol i ddatblygu profiad gwaith. Mae gwisg yn hanfodol ac mae’n costio tua £150.
Byddwch yn astudio pob elfen o waith cegin.
Yn datblygu sgiliau mewn
Mae’r cwrs hwn angen i ddysgwyr gymryd rhan mewn gwersi theori yn ogystal â gwersi ymarferol lle mae asesiadau’n cael eu cynnal mewn gweithle byw heb arholiadau ffurfiol.
Bydd hyfforddiant ac asesiadau yn digwydd yn bennaf yn ein cyfleuster yn y Barri, Ystafell Morgannwg, lle mae ein bwyty prysur yn croesawu cwsmeriaid am ginio a swper a digwyddiadau a derbyniadau drwy gydol y flwyddyn. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau a derbyniadau allanol drwy gydol y flwyddyn ac efallai y bydd angen teithio rhywfaint i gampysau eraill.
Bydd gennych rywfaint o sgiliau sylfaenol a phrofiad fel pen-cogydd, mwy na thebyg o swydd lle roeddech yn gweithio dan oruchwyliaeth. Byddwch eisiau ennill cymhwyster ffurfiol a chynyddu eich sgiliau fel eich bod yn gallu ymgymryd â swydd uwch.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dewisais astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro gan nad oedd yr ysgol yn addas i mi ac nid oedd gennyf ddiddordeb yn unrhyw un o’r pynciau.
Mae’r cwrs Lletygarwch wedi agor cymaint o ddrysau i mi – yn cynnwys cyrraedd rowndiau cyn-derfynol Nestle Torgue d’Or, gan ennill yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ac ennill y ‘Gorau yn y Genedl’ yn WorldSkills yn Lyon yn 2024. Mae’r Coleg wedi rhoi i mi’r sgiliau i gyflawni fy nodau ac wedi fy helpu i gael swydd yn Lucknam Park fel ‘chef de rang’ yn Restaurant Hywel Jones. Yn ddiweddar, bu i mi gwblhau fy HND mewn Rheoli Lletygarwch yn y coleg cyn symud ymlaen i ddechrau cwrs gradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch ymgeisio am gyrsiau lefel uwch yn naill ai CCAF neu mewn sefydliadau partner eraill. Fel arall, mae’r diwydiant lletygarwch yn enfawr a bydd cymhwyster Lefel Tri yn eich galluogi chi i chwilio am gyfleoedd swyddi ym mhob cwr o’r wlad.