Bwyty Y Dosbarth yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Bwyty Coleg y Flwyddyn yr AA 2024

7 Gor 2024

Rydym wedi cael gwybod bod Y Dosbarth, sef bwyty nodedig Coleg Caerdydd a’r Fro ar bumed llawr ei Gampws yng Nghanol y Ddinas, wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Bwyty Coleg y Flwyddyn People 1st yr AA. 

Mae achrediad People 1st International yn arwydd o gymeradwyaeth - gan gydnabod cydweithwyr sy'n darparu cymwysterau lletygarwch amser llawn rhagorol, a dangos i gyflogwyr a darpar fyfyrwyr fod darpariaethau amser llawn fel CCAF ymhlith goreuon y wlad.

Yn dilyn diwrnod difyr ac ysbrydoledig yn y Grand Hotel yn Birmingham yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddwyd bod Y Dosbarth ymhlith tri a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer yr wobr anrhydeddus.

Bu dysgwyr Lefel 3 Rheoli Lletygarwch Stacey Cheung a Marnie Gaskell yn cystadlu yn nigwyddiad eleni. Gwnaethant gryn argraff ar y beirniaid wrth gymryd rhan mewn gweithgaredd i gyflwyno'u syniadau ynghylch sut y gall busnesau ddenu a chadw eu pobl, gyda'r beirniaid yn dweud bod pawb o'r myfyrwyr a oedd yn bresennol ar y dydd yn ddeallus, â diddordeb yn eu pwnc, yn hawddgar, yn ddiffuant ac yn gyfeillgar.

Dywedodd Rachel Bartlett, Uwch Bennaeth Adran Busnes a Diwydiannau Gwasanaeth: “Rwyf bob amser yn hynod falch o waith caled ac ymroddiad ein dysgwyr o fewn yr adran. Maen nhw'n mynd y tu hwnt i'w prif gymwysterau i gyfoethogi eu lefelau sgiliau ymhellach, gan ennill cydnabyddiaeth a chynrychioli'r coleg mewn modd rhagorol, a'u paratoi eu hunain am ddyfodol o fewn y diwydiant, gyda chefnogaeth y staff profiadol sy'n gweithio gyda nhw bob dydd."

Gallwch ddarllen mwy am y gystadleuaeth diwrnod o hyd yma: https://www.people1st.co.uk/news/finalists-announced-for-people-1st-international-sponsored-aa-college-restaurant-of-the-year-2024/ 

Mae'r Dosbarth yn fwyty Ewropeaidd modern ac unigryw â golygfeydd panoramig ar draws prifddinas Cymru. Mae'n cynnig bwydlenni tymhorol gyda ffocws ar gynnyrch Cymreig ffres o safon uchel, ac wedi’i staffio gan arbenigwyr o’r diwydiant lletygarwch ac arlwyo a dysgwyr CCAF sy’n hogi eu sgiliau a’u profiad i ddechrau gyrfa yn y proffesiwn.

Am ragor o wybodaeth am Y Dosbarth, neu i archebu bwrdd, ewch i: https://www.theclassroom.wales/cy/