Mae’r cwrs hwn wedi ei ddylunio i ddysgwyr sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y maes lletygarwch ac arlwyo. Mae’n darparu profiad ymarferol mewn ardaloedd blaen tŷ a chegin, gan ganiatáu ichi ddatblygu sgiliau ymarferol mewn lleoliad bwyty go iawn.
Yn ystod y flwyddyn, byddwch yn datblygu sgiliau coginio Lefel 1 a Lefel 2, ac yn gwneud hynny wrth ennill profiad gwerthfawr mewn lleoliadau gwaith byw. Byddwch hefyd yn datblygu ystod eang o sgiliau gwasanaeth cwsmer, sgiliau gwasanaeth, ynghyd â sgiliau hanfodol mewn cyfathrebu a chymhwyso rhif.
Yn ogystal â’r cwrs, caiff dysgwyr sydd wedi ennill gradd D neu uwch mewn TGAU Saesneg neu Fathemateg y cyfle i ailsefyll, er mwyn gwella eu cymwysterau.
Byddwch yn astudio pob agwedd ar waith cegin a bwyty, gan ddatblygu sgiliau ymarferol mewn meysydd fel gofal cwsmer, diogelwch bwyd, iechyd a diogelwch, a pharatoi a choginio cig a chynnyrch dofednod, pysgod, llysiau, pasta, reis, sawsiau a chawliau. Byddwch hefyd yn ennill profiad mewn gwasanaeth bwyty, gwasanaeth bar, gwasanaeth derbyniad, a sgiliau eraill sy’n berthnasol i’r diwydiant.
Mae’r cwrs yn cyfuno theori a gwersi ymarferol, gydag asesiadau’n cael eu cynnal mewn lleoliad gweithio byw. Nid oes arholiadau ysgrifenedig ffurfiol, gan ganiatáu ichi ddangos eich sgiliau drwy berfformiadau’r byd go iawn.
Bydd hyfforddiant ac asesiadau yn digwydd yn bennaf yn ein cyfleuster yn y Barri, Ystafell Morgannwg, lle mae ein bwyty prysur yn croesawu cwsmeriaid am ginio a swper a digwyddiadau a derbyniadau drwy gydol y flwyddyn.
Byddai ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU Gradd D-F. Fel arall, bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried ar sail cyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, gydag awydd ac ymrwymiad i gwblhau'r cwrs y byddent yn dymuno ei astudio.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dewisais astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro gan nad oedd yr ysgol yn addas i mi ac nid oedd gennyf ddiddordeb yn unrhyw un o’r pynciau.
Mae’r cwrs Lletygarwch wedi agor cymaint o ddrysau i mi – yn cynnwys cyrraedd rowndiau cyn-derfynol Nestle Torgue d’Or, gan ennill yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ac ennill y ‘Gorau yn y Genedl’ yn WorldSkills yn Lyon yn 2024. Mae’r Coleg wedi rhoi i mi’r sgiliau i gyflawni fy nodau ac wedi fy helpu i gael swydd yn Lucknam Park fel ‘chef de rang’ yn Restaurant Hywel Jones. Yn ddiweddar, bu i mi gwblhau fy HND mewn Rheoli Lletygarwch yn y coleg cyn symud ymlaen i ddechrau cwrs gradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd modd ichi arbenigo mewn naill ai blaen tŷ neu gegin ar Lefel Tri. Gallwch fynd ymlaen i naill ai cwrs rheoli Lletygarwch Lefel Tri sef blaen tŷ neu fynd ymlaen i astudio cwrs coginio proffesiynol Lefel Tri.