Lletygarwch - Blaen y Tŷ

L3 Lefel 3
Llawn Amser
4 Medi 2023 — 21 Mehefin 2024
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae hwn yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, wedi’i leoli mewn amgylchedd gweithio realistig.  Mae’r rhaglen hon wedi’i seilio ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, sydd wedi’u hysgrifennu gan gyflogwyr ac arbenigwyr yn y diwydiant Lletygarwch. Mae hwn yn gymhwyster blaen y tŷ, lle bydd dysgwyr yn gweithio’n rhan amser yn y diwydiant lletygarwch ochr yn ochr â chwblhau'r cwrs. Yn astudio yn ein cyfleusterau pwrpasol, mae’r rhaglen hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn y gweithle eisoes ac eisiau datblygu eu gyrfa, neu unrhyw un sydd eisiau symud ymlaen i Oruchwyliaeth Lletygarwch ac yn chwilio am swydd â chyfrifoldeb.

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster hwn yn profi eich bod yn gallu gweithio at y safonau hynny, ac yn dangos eich bod â’r gallu i fod yn oruchwyliwr mewn busnes Lletygarwch, oherwydd byddwch wedi ennill y sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sydd eu hangen i gyflawni'r rôl hon. Byddwch hefyd yn gweithio fel goruchwyliwr dan hyfforddiant yn y bwyty (y gegin, bwyty, bar ac ardal y dderbynfa), yn gweithio gyda dysgwyr lefel is, a'u cefnogi, i ennill y dystiolaeth ar gyfer y cymhwyster hwn.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Am Ddiploma lefel 3 llawn mewn Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch, rhaid i’r dysgwr gwblhau 5 uned orfodol yn llwyddiannus:

  • Gosod amcanion a darparu cymorth i aelodau'r tîm
  • Datblygu perthynas waith gyda chydweithwyr
  • Cyfrannu at reoli adnoddau
  • Cynnal iechyd, hylendid a diogelwch yr amgylchedd gweithio
  • Arwain tîm i wella gwasanaeth cwsmer  

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £0.00

Gofynion mynediad

5 TGAU A * - C gan gynnwys Iaith Saesneg a / neu Fathemateg neu Lefel 2 mewn Arlwyo. Cyfeirnod boddhaol gan diwtor y Cwrs yn nodi ymddygiad da, presenoldeb a chynnydd. Yn agored i ddysgwyr aeddfed sydd â phrofiad arlwyo.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Medi 2023

Dyddiad gorffen

21 Mehefin 2024

Amser o'r dydd

Diwrnod/ Amser

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CTCC3F14
L3

Cymhwyster

City & Guilds Diploma Lefel 3 mewn Goruchwylio Gwasanaethau Bwyd a Diod

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Mae’r cwrs wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi – cyrhaeddais rownd gyn-derfynol Nestle Torgue d’Or ac enillais yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a byddaf yn cystadlu yn WorldSkills UK. Oherwydd y cwrs hwn, rwyf wir yn edrych ymlaen at fy nyfodol.

Ruby Pile
Myfyriwr Rheolaeth Lletygarwch lefel 3
Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl cwblhau, efallai y byddwch yn gallu symud ymlaen at Brentisiaeth Lefel Uwch (4) mewn Lletygarwch, Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Lletygarwch, ymuno â rhaglen hyfforddiant gwesty neu ystyried sefydlu eich busnes eich hun.

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cefnogaeth Dysgu

Mae ein timau cefnogi ymroddedig yn cynnig cefnogaeth gydag anghenion dysgu ychwanegol, cyllid myfyrwyr a mwy.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE