Mae Ruby Pile, cyn-ddysgwr HND Rheoli Lletygarwch Coleg Caerdydd a’r Fro, wedi ennill y wobr ‘Gorau yn y Wlad’ yn WorldSkills Lyon 2024.
Roedd Ruby, sy’n gweithio ym mwyty ‘seren Michelin’ nodedig Hywel Jones yng Ngwesty a Sba Lucknam Park, yn cystadlu fel rhan o Dîm y DU yn y gystadleuaeth WorldSkills – a adnabyddir yn gyffredin fel y ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’. Roedd hi’n cystadlu yn y Rownd Derfynol Ryngwladol yn y categori Gwasanaeth Bwyty. Cwblhaodd ei HND yn CCAF fis Rhagfyr diwethaf, tra’r oedd yn dal i hyfforddi ar gyfer y gystadleuaeth.
“Anrhydedd yw ennill y wobr ‘Gorau yn y Wlad’ yn WorldSkills Lyon 2024,” medd Ruby. “Rydw i’n ddiolchgar dros ben i dîm WorldSkills am ddyfarnu’r fedal i mi – rydw i’n ystyried y fedal hon fel arwydd o’m perfformiad drwy gydol y gystadleuaeth yn Lyon a hefyd mae’n arwydd o’r holl waith caled a wnes wrth hyfforddi dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Roedd cystadlu yn Rownd Derfynol Ryngwladol WorldSkills yn un o brofiadau gorau fy mywyd. Cefais ddeuddydd heriol iawn, yn feddyliol ac yn gorfforol. Ond fe dalodd y gwaith caled ar ei ganfed ac fe helpodd i greu pwy ydw i heddiw.”
Dechreuodd Ruby ar ei siwrnai WorldSkills tra’r oedd yn astudio cyrsiau Lefel 2 a 3 mewn Lletygarwch yn CCAF, cyn iddi symud yn ei blaen i astudio HND mewn Lletygarwch. Gyda chymorth staff CCAF, bu’n cystadlu’n rheolaidd mewn cystadlaethau sgiliau rhanbarthol a chenedlaethol, a hefyd llwyddodd i gael swydd yn Lucknam Park tra’r oedd yn astudio yn y Coleg.
“Alla’ i ddim dechrau esbonio faint o gymorth a gefais gan CCAF wrth imi baratoi ar gyfer Lyon,” medd Ruby. “Trwy astudio yn CCAF, bu modd imi ddefnyddio cyfleusterau hyfforddi i ymarfer fy sgiliau ar gyfer Lyon.”
Mae Ruby yn parhau i weithio yn Lucknam Park ac mae’n astudio Rheoli Gwesty a Lletygarwch Rhyngwladol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Yn y dyfodol, ei bwriad yw teithio’r byd, gan weithio yn y gwestai a’r bwytai gorau er mwyn ehangu ei phrofiad a’i gwybodaeth yn y maes rheoli.
“Mae CCAF a’r profiad a gefais wrth gymryd rhan yn WorldSkills Lyon eisoes wedi fy helpu i wireddu fy uchelgeisiau,” medd Ruby. “Yn ogystal â’r ffaith fy mod yn meddu nawr ar y sgiliau a’r cymwysterau i fynd i unrhyw le sy’n mynd â’m bryd, rydw i hefyd wedi adeiladu systemau rhwydwaith a chymorth enfawr ar hyd y ffordd.”
A hithau wedi cystadlu yn erbyn y bobl ifanc orau drwy’r byd yn ei llwybr gyrfa, mae Ruby yn credu’n gryf ym mhwysigrwydd cystadlaethau fel WorldSkills a’r holl fanteision sydd ynghlwm wrth gystadlu.
“Buaswn yn annog pobl ifanc sy’n ystyried cymryd rhan yn y gystadleuaeth i fachu ar bob cyfle a ddaw i’w rhan,” medd Ruby. “Dydych chi byth yn gwybod pa mor bell y gallwch fynd na beth allwch chi ei gyflawni, a hefyd byddwch yn siŵr o ddatblygu fel unigolyn, yn broffesiynol ac yn bersonol.”
Cafodd aelodau Tîm WorldSkills y DU eu dewis, eu mentora a’u hyfforddi gan WorldSkills y DU mewn partneriaeth â Pearson, cwmni dysgu blaenllaw.
Yn ôl Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills y DU: “Perfformiodd Ruby yn wych yn WorldSkills Lyon 2024, ac rydym wrth ein bodd ei bod wedi ennill y wobr ‘Gorau yn y Wlad’.
“Drwy gydol ei hyfforddiant efo WorldSkills y DU ac yn ystod y gystadleuaeth, llwyddodd Ruby i ymgorffori ysbryd Tîm y DU, ac fe ddisgleiriodd ei gwaith caled, ei hymrwymiad a’i hymroddiad. Yn ogystal â dathlu llwyddiannau Ruby, ein gobaith yw y bydd y gydnabyddiaeth hon yn dangos i bobl ifanc eraill y gall prentisiaethau a hyfforddiant technegol arwain at lwyddiant mewn bywyd a gwaith.”
Medd Sharon James-Evans, Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro: “Llongyfarchiadau enfawr i Ruby ar ennill y wobr ‘Gorau yn y Wlad’ yn Rownd Derfynol WorldSkills – llwyddiant anhygoel a hwb enfawr i’w CV. Mae pob un ohonom mor falch ohonot ti, Ruby.
“Mae Ruby wedi rhagori ar bob lefel yng nghystadlaethau WorldSkills a Chystadleuaeth Sgiliau Cymru, a’i gwobr haeddiannol yw cael ei henwi fel y ‘Gorau yn y Wlad’ yn y Rownd Derfynol Ryngwladol. Yn olaf, hoffwn ddiolch o galon i’r holl staff o fewn y Coleg sydd wedi cynorthwyo Ruby i gyrraedd y lefel eithriadol hon.”