Dysgwyr Coleg Caerdydd a’r Fro yn mynd ar drip unwaith mewn oes i Fecsico

6 Meh 2024

Mae dysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo a Theithio a Thwristiaeth o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi bod ar daith unwaith mewn oes i Cancun ym Mecsico.

Tra oedden nhw yno fe wnaethon nhw ddysgu am astudio mewn gwlad arall a phwysigrwydd teithio, twristiaeth a lletygarwch i economi’r rhanbarth. Bu’r dysgwyr hefyd yn archwilio pwysigrwydd cynaliadwyedd ac yn profi diwylliant, croeso a lletygarwch pobl Mecsico.

Ariannwyd yr ymweliad gan Taith, menter sy’n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru a’i gweithredu gan Brifysgol Caerdydd. Cynlluniwyd Taith i roi cyfle i fyfyrwyr astudio, dysgu ac archwilio fel dinasyddion byd-eang gyda chefnogaeth partneriaid addysgol a diwydiannol rhyngwladol.

Fel rhan o Symudedd Allanol y prosiect, teithiodd grŵp o 11 o fyfyrwyr Lletygarwch a Thwristiaeth Teithio CCAF i’r Universidad Tecnologica de Cancun (UTC) ac integreiddio â’i dysgwyr. Buont mewn amrywiol ddarlithoedd, seminarau a gweithdai am y celfyddydau coginio, teithio a thwristiaeth a diwylliant a threftadaeth Mecsico.

Ar y Diwrnod Rhyngwladol rhoddodd dysgwyr CCAF gyflwyniad am y Coleg a Diwylliant a Threftadaeth Cymru. Buont hefyd yn cyflwyno dosbarth meistr ar gacennau cri, gwirodydd Cymreig a choctels.

Roedd y daith hefyd yn cynnwys cyfres o ymweliadau, gan gynnwys trip i fragdy Tulum i weld sut mae cwrw'n cael ei wneud yno o ddŵr môr, a gwestai amrywiol i weld maint y diwydiant ym Mecsico. Roedd y profiadau diwylliannol yn cynnwys ymweliad â Chichén-Itzá i ddysgu am ddiwylliant Maya, trip i loches i ddolffiniaid ac aeth y dysgwyr hefyd i nofio gyda chrwbanod môr.

Dywedodd Maddie Caulkett, sy’n ddysgwr Teithio a Thwristiaeth Lefel 3: “Roedd y trip yma’n brofiad hynod werthfawr ac yn gyfle oes. Mae wedi gwella fy hyder i ac wedi rhoi gwybodaeth uniongyrchol i mi a dealltwriaeth o’r diwydiant Twristiaeth a Lletygarwch.”

Dyma hefyd fenter Symudedd Mewnol gyntaf Taith, lle daeth grŵp o ddeg o ddysgwyr Celfyddydau Coginio, Twristiaeth a Therapi Corfforol - llawer ohonynt heb adael Mecsico erioed o'r blaen - a phum aelod o staff i CCAF yn ddiweddar i integreiddio â'i ddysgwyr. Tra oedden nhw yn y Coleg cafwyd dosbarth meistr ganddynt ar fwyd Mecsicanaidd ac fe gawsant hwy ddosbarthiadau meistr mewn gwasanaeth bwyty a patisserie, ac aethant ar ymweliadau ag Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan a Chastell Hensol a Distyllfa Jin a chael taith o amgylch Stadiwm Principality. Roedd cyfle hefyd iddyn nhw flasu cawl cig oen traddodiadol a bara draig wedi’u paratoi gan ddysgwyr Coginio Proffesiynol Lefel 1 CCAF.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Yn CCAF rydyn ni’n hoffi cynnig profiad sy’n fwy na dim ond ystafell ddosbarth ac mae’r daith anhygoel yma wedi gwneud yn union hynny. Nid bob dydd mae rhywun yn cael cyfle i hedfan i Fecsico a phrofi Cancun – felly fe hoffen ni ddiolch yn fawr iawn i Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd am ariannu’r trip yma drwy Taith.



“Rydw i mor falch bod y dysgwyr wedi mwynhau eu hunain wrth gael cipolwg uniongyrchol ar fyd dysgu a gweithio dramor.

“Roeddwn i hefyd yn falch iawn o allu croesawu’r grŵp o ddysgwyr a staff o UTC i’n Coleg ni fel rhan o brosiect Symudedd Mewnol cyntaf erioed Taith. Da iawn i’r holl ddysgwyr a diolch yn fawr iawn i holl staff CCAF ac UTC oedd yn rhan o drefnu’r ddwy daith a chefnogi’r dysgwyr drwy gydol y teithiau.”