Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle ichi ddatblygu eich sgiliau ymhellach i ddod yn gogydd arbenigol. Mae’r elfen coginio ymarferol yn cynnwys Pantri, saws, pysgod, cig, a theisennau a chrwst. Ar ôl cael eich addysgu i gynhyrchu ystod o brydau bwyty safon uchel, byddwch yn archwilio taith nwyddau o’r fferm i’r fforc, ac astudio cynaliadwyedd, maeth, cynllunio bwydlen a chostau yn fanwl.
Byddwch yn cynllunio, rheoli a threfnu digwyddiadau yn y Coleg yn ogystal ag ar gyfer digwyddiadau allanol. Byddwch yn gallu cymryd rhan mewn lleoliadau profiad gwaith o safon uchel gyda chogyddion blaenllaw yn ein bwyty moethus ar y safle.
Ar gyfer Diploma Lefel 3 llawn mewn Coginio Proffesiynol, byddwch yn paratoi, coginio a gorffen ystod o eitemau cymhleth o gynnyrch cig, dofednod, pysgod, pasta, cawliau, sawsiau, llysiau, crwst, toes, pwdinau poeth ac oer, siocled, teisennau ayyb.
5 TGAU A * - C gan gynnwys Iaith Saesneg a / neu Fathemateg neu Lefel 2 mewn Arlwyo. Cyfeirnod boddhaol gan diwtor y Cwrs yn nodi ymddygiad da, presenoldeb a chynnydd. Yn agored i ddysgwyr aeddfed sydd â phrofiad arlwyo.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau, efallai y byddwch yn gallu symud ymlaen at Brentisiaeth Lefel Uwch (4) mewn Lletygarwch, Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Lletygarwch, ymuno â rhaglen hyfforddiant gwesty neu ystyried sefydlu eich busnes eich hun.