Becws

L1 Lefel 1
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno datblygu eu sgiliau bwyd ac ennill dealltwriaeth er mwyn cefnogi dilyniant at ddysgu pellach yn y diwydiant bwyd. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cymhwyster yn ymdrin â gwybodaeth a sgiliau bwyd ymarferol hanfodol mewn meysydd fel: cymysgu, siapio, cynhesu, oeri, gorffen a chyflwyno cynnyrch bwyd. Mae gan ddysgwyr ddewis eang o sgiliau yn y grŵp gorfodol o unedau, gan gynnwys meysydd cyffredinol fel glendid, diogelwch ac ansawdd.

Mae'r rhan fwyaf o'r cymhwyster yn seiliedig ar elfennau ymarferol a chaiff tystiolaeth ei chasglu drwy adeiladu portffolio. 

4 TGAU, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg.


Bydd angen ichi brynu cyfarpar diogelwch personol er mwyn gweithio yn y gegin.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CTCC1F01
L1

Cymhwyster

Bakery

Mwy...

Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

78,000

Ar hyn o bryd, mae dros 78,000 o swyddi yn y Sector Lletygarwch ac Arlwyo, a rhagwelir y bydd hyn yn tyfu 6.3% erbyn 2025. (EMSI 2021).

Ar ôl cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen at L2 mewn pobi proffesiynol neu L2 mewn Gwasanaethau Lletygarwch.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE