Lletygarwch

L2 Lefel 2
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae ein cwrs Gwasanaethau Lletygarwch lefel 2 yn berffaith ar gyfer y rhai sy’n gadael yr ysgol ac yn ystyried gyrfa mewn lletygarwch neu arlwyo, neu unigolion sy’n ailhyfforddi neu'n uwchsgilio. 
Enillwch gymhwyster NVQ Lefel 2 City & Guilds wrth i chi ddatblygu sgiliau mewn Celfyddydau Coginio a Gwasanaethau Bwyty. Hyfforddwch ym Mwyty Y Dosbarth sydd wedi derbyn canmoliaeth fawr gan yr AA, ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant a thiwtoriaid arbenigol, gan gyfuno technegau clasurol gyda dulliau modern i feithrin hyder ac arbenigedd. Gall myfyrwyr fynd yn eu blaenau i gymwysterau Lefel 3 neu ddechrau eu gyrfaoedd gyda phrofiad o’r byd go iawn a sylfaen gadarn mewn lletygarwch, yn barod i ffynnu mewn diwydiant deinamig. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r cwrs yn cynnwys cyfres o unedau craidd sy’n canolbwyntio ar feysydd allweddol megis diogelwch bwyd yn y gweithle, gwaith tîm effeithiol, a chreu argraff gadarnhaol o'ch hun a’ch sefydliad. Yn ychwanegol, mae unedau dewisol yn cael eu dewis yn ofalus gan ein tîm academaidd profiadol i sicrhau eich bod yn ennill dealltwriaeth gynhwysfawr o’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ragori mewn amgylchedd bwyty a chegin proffesiynol. Mae dulliau asesu yn cynnwys papurau gwybodaeth aml-ddewis ac arsylwadau ymarferol a gynhelir gan eich darlithydd, a fydd yn darparu adborth adeiladol i gefnogi eich datblygiad parhaus a gwella eich arbenigedd yn y maes.

Gofynion mynediad

Ar gyfer y rhai sy'n astudio mewn AB ar hyn o bryd, byddai angen cwblhau cymhwyster gwasanaethau lletygarwch lefel 1 neu debyg yn llwyddiannus gyda phresenoldeb o 90%, a hefyd geirda gan diwtor y cwrs. I'r rhai sy'n symud ymlaen o'r ysgol neu eisiau ailhyfforddi ar gyfer y diwydiant, gofyniad o 4 TGAU gradd A i D gan gynnwys mathemateg, Cymraeg neu Saesneg neu gyfwerth. Bydd gofyn i fyfyrwyr brynu gwisg Bwyty, dillad gwyn Cogydd a set o Gyllyll fel rhan o'u pecyn PPE gorfodol. Bydd rhestr o’r cit gan Russums yn cael ei darparu ar ddyddiau blasu a sesiynau cadw mewn cysylltiad.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CTCC2F22
L2

Cymhwyster

Hospitality

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Dewisais astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro gan nad oedd yr ysgol yn addas i mi ac nid oedd gennyf ddiddordeb yn unrhyw un o’r pynciau.

Mae’r cwrs Lletygarwch wedi agor cymaint o ddrysau i mi – yn cynnwys cyrraedd rowndiau cyn-derfynol Nestle Torgue d’Or, gan ennill yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ac ennill y ‘Gorau yn y Genedlyn WorldSkills yn Lyon yn 2024. Mae’r Coleg wedi rhoi i mi’r sgiliau i gyflawni fy nodau ac wedi fy helpu i gael swydd yn Lucknam Park fel ‘chef de rang’ yn Restaurant Hywel Jones. Yn ddiweddar, bu i mi gwblhau fy HND mewn Rheoli Lletygarwch yn y coleg cyn symud ymlaen i ddechrau cwrs gradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Ruby Pile
yn-fyfyriwr Lletygarwch Lefel 2 a 3 a HND mewn Rheoli Lletygarwch. Bellach yn astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

78,000

Ar hyn o bryd, mae dros 78,000 o swyddi yn y Sector Lletygarwch ac Arlwyo, a rhagwelir y bydd hyn yn tyfu 6.3% erbyn 2025. (EMSI 2021).

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster lefel 2 gwasanaethau lletygarwch yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i naill ai cymhwyster lefel 3 coginio proffesiynol neu gymhwyster lefel 3 mewn goruchwyliaeth ac arweinyddiaeth lletygarwch. Pe hoffech chwilio am gyflogaeth, mae gennym dîm gyrfaoedd pwrpasol a all eich helpu i ddod o hyd i'r lle delfrydol i ddechrau eich gyrfa, gyda chymorth ychwanegol ar gyfer ysgrifennu CV a pharatoi at gyfweliad.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE