Lletygarwch
Ynglŷn â'r cwrs
Bydd ein cwrs Lletygarwch 1 flwyddyn yn addas i ddysgwyr sydd eisoes wedi cyflawni VRQ Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd, neu rywun sydd â phrofiad a sgiliau proffesiynol fel cogydd, lle'r ydych wedi gweithio o dan oruchwyliaeth neu ar flaen y tŷ yn y diwydiant gweini bwyd a diod. Mae'r rhaglen wedi ei chynllunio ar gyfer yr ymgeiswyr hynny sydd yn awyddus i ennill cymwysterau ffurfiol a chynyddu eu sgiliau, fel y gallant ymgymryd â rôl uwch un diwrnod.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddangos y gallant weithio ar eu pennau eu hunain ac fel rhan o dîm, a gweithio yn ein bwy+A84ty ciniawa cain ar sail rota. Mae'n bosibl y bydd cyfle hefyd i bob dysgwr ymweld â sioeau masnach megis Hotelympia a gwahanol sefydliadau perthnasol. Asesir y cwrs Diploma trwy ateb cwestiynau byrion ac asesiadau ymarferol.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Er mwyn ennill y cymhwyster Coginio Proffesiynol a Gwasanaeth Bwyd VRQ L2, bydd rhaid i'r dysgwr gyflawni unedau'n llwyddiannus yn cynnwys modiwlau megis:
- Datblygu sgiliau ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch
- Iechyd a diogelwch mewn arlwyaeth a lletygarwch
- Bwydydd iachach a deietau arbennig
- Gweithrediadau arlwyo, costau a chynllunio bwydlenni
- Paratoi a choginio stociau, cawliau a sawsiau
- Paratoi a choginio cig ac offal
- Paratoi a choginio dofednod
- Paratoi a choginio pysgod a physgodyn cragen
- Creu pwdinau poeth ac oer
- Deddfwriaeth gwasanaethau bwyd a diod
- Gwybodaeth o fwydlenni, eu dylunio ac adnoddau
- Egwyddorion gwybodaeth cynnyrch diod
- Gweini diodydd poeth
- Sgiliau gweini bwyd a diod
- Ymdrin â thaliadau a chynnal y pwynt talu
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, gall dysgwyr ddewis i symud ymlaen at Goginio Proffesiynol Lefel 3 neu fynd yn syth at gyflogaeth yn y diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £0.00
Gofynion mynediad
4 TGAU Graddau A* i D gan gynnwys Saesneg Iaith (neu gyfatebol). Geirda boddhaol gan Diwtor Cwrs. Fel dewis arall, cyflawni Lefel 1 yn llwyddiannus a geirda boddhaol. Geirda boddhaol gan Ysgol neu Goleg i ddynodi ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da.
Addysgu ac Asesu
- Arholiad ysgrifenedig, asesiadau ymarferol, arholiadau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Mae’r cwrs wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi – cyrhaeddais rownd gyn-derfynol Nestle Torgue d’Or ac enillais yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a byddaf yn cystadlu yn WorldSkills UK. Oherwydd y cwrs hwn, rwyf wir yn edrych ymlaen at fy nyfodol.
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus fynd yn eu blaenau i fod yn rheolwyr arlwyo neu reolwyr gwestai, neu barhau ar lwybr dilynol, megis:
- Lefel 3 Coginio Proffesiynol (VRQ)
- Lefel 3 Coginio Proffesiynol (NVQ)
- Lefel 3 Gwaith Patisserie a Melysion Proffesiynol (VRQ)
- Diploma Lefel 3 mewn Goruchwylio Gwasanaeth Bwyd a Diod (NVQ)
- Prentisiaeth Uwch
Bydd llawer o fyfyrwyr hefyd yn manteisio ar wahanol gyfleoedd gwaith yn y diwydiant.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu