Darlithydd Coleg Caerdydd a’r Fro Martha a phartner y Coleg Kim yn ennill Gwobrau Inspire! am addysgu a mentora trawsnewidiol
Mae Darlithydd Sgiliau Hanfodol Coleg Caerdydd a’r Fro, Martha Holman, a Kim Eversham, Rheolwr Ansawdd yn Dow Silicones yn y Barri, wedi ennill Gwobrau Tiwtor a Mentor Inspire! am eu hymroddiad i helpu oedolion i ddychwelyd i addysg a goresgyn rhwystrau i ddysgu.