Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ennill Gwobr Dysgu Teuluol ledled y DU am ei waith arloesol o ran darparu dysgu teuluol sy'n cynnwys gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).
Yn cael eu trefnu gan yr Ymgyrch dros Ddysgu a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Teuluol, mae’r Gwobrau Dysgu Teuluol yn ddathliad blynyddol o waith ymgysylltu sy'n gwneud byd o wahaniaeth i deuluoedd a chymunedau. Mae tîm Dysgu Teuluol CCAF wedi ennill y Wobr Dysgu Teuluol i Gefnogi STEM.
Mae tîm Dysgu Teuluol y Coleg yn darparu 27 o gyrsiau STEM dysgu teuluol y flwyddyn, sy'n cwmpasu 330 o deuluoedd, gyda 670 o bobl yn cymryd rhan yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Cyflwynir y cyrsiau am ddim yn y gymuned, gyda'r rhan fwyaf o'r ddarpariaeth yn cael ei chyflwyno mewn ardaloedd gyda lefel uchel o amddifadedd.
Mae'r rhaglen yn cael ei chydgynhyrchu gyda phlant, rhieni, gofalwyr ac arweinwyr ysgolion, gan ymateb i anghenion teuluoedd yn y gymuned a chyd-fynd â rhaglen ddysgu’r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r ddarpariaeth wedi'i chynllunio i alluogi rhieni a gofalwyr i ddysgu a datblygu gyda'u teuluoedd.
Mae darpariaeth Dysgu Teuluol CCAF sy'n hyrwyddo pynciau STEM yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau hwyliog sy'n tynnu sylw at ddefnydd yn y byd real o egwyddorion STEM, fel defnyddio saws tomato a chwstard i archwilio Hylifau An-Newtonaidd ac echdynnu DNA o fefus. Yn aml, mae’r rhieni'n symud ymlaen i astudio cyrsiau pellach mewn pynciau sy'n gysylltiedig â STEM.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill y Wobr Dysgu Teuluol i Gefnogi STEM yma – llongyfarchiadau i dîm Dysgu Teuluol CCAF!
“Yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro rydyn ni’n ymfalchïo ein bod ni yng nghalon y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, ac mae'r tîm Dysgu Teuluol yn enghraifft ddisglair o'r gwaith hwnnw. Maen nhw’n gweithio i gydgynhyrchu'r rhaglen Dysgu Teuluol gyda phlant, rhieni, gofalwyr ac arweinwyr ysgolion i sicrhau ei bod yn ymateb i anghenion teuluoedd yn y cymunedau hynny, gan alluogi rhieni a gofalwyr i ddysgu a datblygu gyda'u teuluoedd.
“Mae'r ffordd arloesol, ddychmygus a chynhwysol mae'r tîm yn mynd ati i ddarparu cyfleoedd dysgu i deuluoedd ac yn eu hannog nhw i archwilio pynciau STEM ar draws Rhanbarth y Brifddinas yn ysbrydoliaeth ac mae'r wobr yma’n dyst i hynny.”
Dywedodd Miranda Baxter, Dirprwy Gyfarwyddwr yn Campaign for Learning: “Rydyn ni mor gyffrous am gyhoeddi enillwyr Gwobrau Dysgu Teuluol 2025, sydd wedi gwneud gwahaniaeth gyda’i gilydd i fywydau mwy na 15,000 o blant a theuluoedd. Gan feddwl am hynny, yr hyn oedd yn unigryw ar draws y pedwar categori o Ddysgu Teuluol yn y Blynyddoedd Cynnar, Arloesi, Iechyd a Llesiant, a STEM, oedd sut mae pob menter yn canolbwyntio ar bobl.
“Mae'n amlwg iawn bod pob un o’r enillwyr yn blaenoriaethu partneriaethau cadarn a didwyll gyda’r teuluoedd a’r cymunedau maen nhw'n gweithio gyda nhw, gyda chwilfrydedd, creadigrwydd a dychymyg diderfyn. Llongyfarchiadau i bawb am ddysgu teuluol cwbl eithriadol!”