Coleg Caerdydd a'r Fro ar restr fer Gwobrau Dysgu i Deuluoedd DU-eang 2025

20 Mai 2025

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dysgu i Deuluoedd DU-eang am ei waith arloesol wrth ddarparu dysgu teuluol sy'n cynnwys gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Wedi'u trefnu gan Campaign for Learning a'r National Centre for Family Learning, mae'r Gwobrau Dysgu i Deuluoedd yn ddathliad blynyddol o waith atyniadol sy'n gwneud gwahaniaeth wirioneddol i deuluoedd a chymunedau. Mae tîm Dysgu i Deuluoedd CCAF wedi cyrraedd y rhestr fer yn y Wobr Cymorth Dysgu i Deuluoedd i STEM.

Mae tîm Dysgu i Deuluoedd y Coleg yn darparu 27 o gyrsiau STEM dysgu teuluol y flwyddyn sy'n cwmpasu 330 o deuluoedd, gyda 670 o bobl yn cyfranogi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r cyrsiau am ddim yn cael eu cyflenwi yn y gymuned, gyda'r rhan fwyaf o'r ddarpariaeth yn cael ei chyflenwi mewn ardaloedd o amddifadedd uchel.

Mae'r rhaglen yn cael ei chyd-gynhyrchu gyda phlant, rhieni, gofalwyr ac arweinwyr ysgol, gan ymateb i anghenion teuluoedd o fewn y gymuned tra'n cyd-fynd â rhaglen dysgu Cwricwlwm Cymru. Maent wedi'u cynllunio i alluogi rhieni a gofalwyr i ddysgu a datblygu gyda'i gilydd.

Mae darpariaeth Dysgu i Deuluoedd CCAF sy'n hyrwyddo pynciau STEM yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau difyr sy'n tynnu sylw at weithredu egwyddorion STEM yn y byd go iawn, megis defnyddio saws coch a chwstard i archwilio Hylifau an-Newtonaidd ac echdynnu DNA o fefus. Mae rhieni yn aml yn symud ymlaen i astudio cyrsiau pellach mewn pynciau sy'n gysylltiedig â STEM.

Dywedodd Wayne Carter, Uwch Bennaeth Astudiaethau Academaidd, Sylfaen a Dysgu Oedolion yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro: "Rydym wrth ein bodd i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr genedlaethol fawreddog hon a chael ein cydnabod am y ffyrdd dychmygus, arloesol a chynhwysol o ddarparu cyfleoedd dysgu i'n teuluoedd."

Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr yr Ymgyrch dros Ddysgu, Miranda Baxter: "Mae'r Gwobrau Dysgu i Deuluoedd yn cydnabod ac yn dathlu mentrau dysgu teuluol penigamp ac effeithiol sy'n digwydd yn genedlaethol. A phob blwyddyn mae'r beirniaid yn rhyfeddu ar safon y ceisiadau a'r safonau rhagoriaeth ar draws sector sy’n eithriadol o amrywiol ac arbenigol yn y DU.

"Mae dysgu teuluol yn ymwneud â chreu profiadau dysgu cyfoethog a pherthnasoedd cryfach sy'n trawsnewid meddwl, rhoi hwb i sgiliau ac yn creu diwylliant dysgu gydol oes. Mae pob ymgeisydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned. Maent wedi gweithio gyda theuluoedd mewn ffyrdd creadigol ac ymatebol ble’r oedd y teuluoedd yn gyd-grewyr ac yn cael eu gwerthfawrogi fel partneriaid dysgu cyfartal.

"Mae pawb yn elwa o ddysgu teuluol: teuluoedd, trefnwyr, ecosystem gyfan y gymuned. Ac mae'r sefydliadau a'r unigolion sy'n cyflwyno ceisiadau yn griw angerddol sydd yn wir yn credu mewn grym ymgysylltu â theuluoedd. Rydym ni yn Campaign for Learning wrth ein bodd i gyhoeddi ein hymgeiswyr ar y rhestr fer a chanmol pawb a ymgeisiodd."

Bydd enillwyr y Gwobrau Dysgu i Deuluoedd yn cael eu cyhoeddi ar 12 Mehefin 2025. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.nationalcentreforfamilylearning.org/family-learning-awards