Mae Y Dosbarth, y bwyty ar Gampws Canol y Ddinas Coleg Caerdydd a'r Fro, wedi cyrraedd rhestr fer Bwyty Coleg y Flwyddyn yr AA unwaith eto, gyda chefnogaeth People 1st International.
Dyma'r bedwaredd flwyddyn yn olynol i Y Dosbarth gyrraedd rhestr fer y wobr sy'n dangos ymrwymiad rhagorol i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr lletygarwch proffesiynol.
Yn fwyty Ewropeaidd modern clasurol yng nghanol Caerdydd, mae Y Dosbarth yn cynnig bwyd tymhorol o ansawdd uchel gyda chynhwysion lleol lle bo modd. Tîm o weithwyr proffesiynol y diwydiant sy'n arwain y bwyty, sy'n cael ei staffio gan ddysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo'r Coleg.
Mae Y Dosbarth wedi cadw ei statws Canolfan Ragoriaeth dyfarniad aur People 1st International hefyd a'i rosét canmoliaeth uchel gan yr AA.
Fel rhan o ddiwrnod beirniadu Gwobrau Bwyty Coleg y Flwyddyn yr AA, gwahoddwyd timau o fyfyrwyr i archwilio sut gall y diwydiant greu amgylchedd gwaith mwy amrywiol a chynhwysol, a sut gall y diwylliant yma rymuso cyflogeion i ddarparu gwasanaeth cynhwysol i gwsmeriaid.
Rhoddodd pob grŵp gyflwyniadau a chawsant eu cyfweld gan banel nodedig o arweinwyr y diwydiant, a ganmolodd y creadigrwydd, y wybodaeth a'r proffesiynoldeb a ddangoswyd drwyddo draw. Bydd y seremoni wobrwyo’n cael ei chynnal yn Llundain ar 22ain Medi.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau i'r tîm yn Y Dosbarth am gael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Bwyty Coleg y Flwyddyn yr AA – mae'n anrhydedd fawr! Pob lwc i'r tîm a'r dysgwyr ar y diwrnod.”