Y penwythnos yma bydd Coleg Caerdydd a'r Fro yn Tafwyl – yr ŵyl ddeuddydd flynyddol sy'n dathlu'r iaith Gymraeg a cherddoriaeth, celfyddydau a diwylliant Cymru yng nghanol Caerdydd.
Mae'r digwyddiad yn denu mwy na 40,000 o bobl yn rheolaidd dros y penwythnos am ddim.
CCAF yw prif bartner y digwyddiad unwaith eto, ar ôl llunio partneriaeth hirdymor gyda'r trefnwyr, Menter Caerdydd a'r Fro, i ymrwymo fel prif bartner am y tair blynedd nesaf. Y Coleg hefyd yw prif bartner Gŵyl Fach y Fro, gŵyl gerddoriaeth undydd y Fenter yn y Barri. Nod y bartneriaeth hon yw codi mwy o ymwybyddiaeth o ymrwymiad y Coleg i'r iaith Gymraeg a chefnogi ei ddysgwyr, ei gydweithwyr a'i gymuned i #SiaradDysguByw yn y Gymraeg.
Mae Tafwyl 2025 yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn 14eg a dydd Sul 15fed Mehefin ym Mharc Bute, Caerdydd ac yn ystod y ddau ddiwrnod yma bydd gan CCAF ardal ei hun yn y Parth Ieuenctid, gyda chyngor dwyieithog, nwyddau am ddim a gweithgareddau rhyngweithiol. Bydd CCAF ar y sgriniau mawr a bydd ei ddysgwyr Cerddoriaeth yn perfformio ym mhabell gerddoriaeth yr ieuenctid.
Mae'r digwyddiad cynhwysol, am ddim hefyd yn denu pobl ddi-Gymraeg at iaith a diwylliant Cymru, yn unol â Strategaeth Iaith Gymraeg CCAF, ‘Cymraeg i bawb’. Bydd pum llwyfan cerddoriaeth yn cynnwys amrywiaeth eang o artistiaid, ynghyd ag ardal chwaraeon, pentref plant ac amrywiaeth o stondinau bwyd stryd a marchnad.
Dywedodd Cadeirydd y Gorfforaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Geraint Evans: “Yn CCAF rydyn ni’n credu ym mhŵer partneriaeth i ddatblygu cyfleoedd a bod o fudd i'n rhanbarth ni, a thrwy ymrwymo i gytundeb hirdymor gyda Menter Caerdydd a'r Fro i gefnogi Tafwyl, rydyn ni’n gobeithio darparu awyrgylch croesawgar sy'n apelio nid yn unig at y gymuned sy'n siarad Cymraeg ond hefyd at y rhai sy'n dymuno ymgysylltu â'r iaith Gymraeg am y tro cyntaf.
“Fel y grŵp coleg mwyaf yng Nghymru rydyn ni’n angerddol am ein gwlad a'n hiaith a datblygu cyfleoedd i bawb siarad, dysgu a byw yn y Gymraeg, yn ogystal â darparu cyfleoedd i bawb ymwneud â diwylliant Cymru heddiw, a'n mantra ni yw Cymraeg i Bawb”.
Dywedodd Sharon James-Evans, Pennaeth Grŵp CCAF: “Bob blwyddyn, mae gennym ni filoedd o fyfyrwyr yn ymgymryd â rhywfaint o’u dysgu, neu eu holl ddysgu, yn ddwyieithog. Gall siaradwyr Cymraeg ymuno â'n coleg ni a pharhau i ddysgu, cael eu cefnogi a'u hasesu'n ddwyieithog, gan ddatblygu eu sgiliau Cymraeg gwerthfawr ymhellach ar gyfer eu dyfodol. Rydyn ni hefyd yn cefnogi diwylliant lle mae'r Gymraeg yn cael ei gweld a'i chlywed ar draws ein coleg ni, gan ddatblygu sgiliau Cymraeg pawb a sicrhau bod ein poblogaeth amrywiol o 30,000 o ddysgwyr bob blwyddyn yn ymwneud â’n treftadaeth a'n diwylliant, a normaleiddio'r iaith i bawb.
“Felly, os ydych chi'n ymuno â CCAF yn 16 oed, ar ôl cael eich addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, neu'n dechrau gyda ni fel dysgwr sy'n oedolyn sydd wedi symud i Gaerdydd o wlad arall i ddechrau eich bywyd yma – rydyn ni eisiau sicrhau bod ein dysgwyr amrywiol ni o bob cwr o'r rhanbarth yma’n gallu ymgysylltu â'n hiaith a'n diwylliant Cymraeg, cael eu hysbrydoli ganddyn nhw a theimlo'n rhan ohonyn nhw. Mae gwaith Menter Caerdydd a'r Fro a gwyliau cynhwysol, rhad ac am ddim Tafwyl a Gŵyl Fach y Fro yn cyd-fynd â hyn”.
Mae Tafwyl am ddim i bawb - felly galwch draw i ddweud 'shwmae' os ydych chi yno!