Cyn Mynediad at Nyrsio
Ynglŷn â'r cwrs
Mae'r cwrs Cyn-Mynediad i Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi'i ddylunio i roi'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i fynd ymlaen i'r Cwrs Mynediad i Nyrsio. Rhoddir cefnogaeth a chyfle i chi sefyll Mathemateg a Saesneg TGAU a byddwch hefyd yn astudio un uned Gofal o gwrs Lefel 3.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Astudir y cwrs hwn un diwrnod yr wythnos am 33 wythnos. Mae wedi'i ddylunio'n fwriadol i'r rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y maes Gofal, sy'n awyddus i gael gyrfa mewn Nyrsio/Bydwreigiaeth yn y dyfodol.
Rhoddwn ystyriaeth unigol lawn a gofalus i bob cais. Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch i ymuno â'r cwrs hwn ond rydym yn chwilio am gyfnod allan o addysg ffurfiol a sgiliau llythrennedd a rhifedd priodol sy'n dangos eich bod yn barod ar gyfer y cwrs hwn (byddwn yn eich helpu chi i gadarnhau hyn yn y cyfweliad).
Rydym hefyd yn disgwyl gweld sgiliau rhyngbersonol da, ymrwymiad i'r maes astudiaeth a brwdfrydedd a dealltwriaeth o'ch llwybr gyrfa dewisol.
Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio ar gyfer y rheiny sydd eisoes mewn cyflogaeth ond rhoddir ystyriaeth i'r rheiny sy'n gobeithio ennill gwaith yn y maes hwn hefyd.
Addysgu ac Asesu
- Asesiadau parhaus ac aseiniadau gwaith cwrs a phrofion sgiliau ymarferol ac arholiadau
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cwrs: £125.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00
Gofynion mynediad
Rydym yn rhoi ystyriaeth unigol a gofalus i bob cais. Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch i ymuno â'r cwrs hwn, ond bydd angen i chi ddangos sgiliau priodol mewn llythrennedd a rhifedd a fydd yn cael eu hasesu yn y cyfweliad. Yn dilyn canlyniadau eich asesiad, efallai y bydd angen gofyn i chi gwblhau cwrs gloywi/uwchsgilio naill ai mewn llythrennedd neu rifedd neu'r ddau. Os yw hyn yn wir, byddai angen darparu tystiolaeth o gwblhau cyn cofrestru ar y cwrs. Rhaid i fyfyrwyr fod yn 19+ oed, L1 Cyfathrebu E3 Mathemateg. Mae angen o leiaf ESOL lefel 1 neu IELTS 5-5.5 ar ddysgwyr sy'n siarad ieithoedd eraill.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Cyfleusterau
Mwy
Rydw i'n meddwl fy mod i wedi datblygu llawer o hyder ar y cwrs ac wedi dysgu sgiliau sylfaenol nad oedd gen i cynt. Fe adewais i'r ysgol ar ddechrau Blwyddyn 11 felly roedd cael C mewn mathemateg a Saesneg ar lefel TGAU yn beth mawr i mi ac yn hwb i fy h
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn bydd gan fyfyrwyr y cymhwyster angenrheidiol i wneud cais am ein cymhwyster lefel mynediad i nyrsio a bydwreigiaeth. Ar ôl cwblhau'r cwrs lefel 3 gallwch wneud cais ar gyfer y brifysgol.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu