Mynediad i Beirianneg
Ynglŷn â'r cwrs
Mae cwrs Mynediad yn gyfle dysgu dwys, wedi'i anelu at oedolion sy'n dymuno astudio yn y brifysgol ond nad oes ganddynt y cymwysterau i wneud cais. Byddai cwrs Mynediad yn addas i fyfyrwyr hŷn sydd â phrofiadau helaeth o ran gwaith a bywyd ac sydd heb fod mewn addysg ffurfiol ers 3 blynedd neu fwy. Mae cwrs Mynediad Lefel 3 wedi'i ddylunio'n benodol i baratoi myfyrwyr at astudio ar lefel prifysgol.
Byddai'r cwrs hwn yn addas i ddysgwyr sy'n awyddus i ddilyn gyrfa yn y maes peirianneg neu wyddoniaeth ac sy'n dymuno astudio un o'r graddau prifysgol canlynol (DS nid yw'r rhestr hon yn gyflawn)
- Peirianneg
- Mathemateg
- Peirianneg Fecanyddol
- Peirianneg Drydanol
- Peirianneg Gemegol
- Peirianneg Sifil
- Peirianneg Awyrenegol
Beth fyddwch yn ei astudio?
Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â phynciau yn:
- Mathemateg
- Ffiseg
- Peirianneg
Addysgu ac Asesu
- Asesiad parhaus gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth ac arholiadau.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £0.00
Gofynion mynediad
3 blynedd neu fwy allan o addysgu ffurfiol Saesneg TGAU C+ (os ydych yn bwriadu dod yn athro yng Nghymru byddwch angen gradd B mewn Mathemateg a Saesneg TGAU) neu IELTS Lefel 6 Cofiwch fod Mathemateg a Saesneg TGAU yn rhan o ofynion mynediad rhai prifysgolion, a Gwyddoniaeth TGAU mewn rhai achosion. Llwybrau gadael clir, wedi'u hymchwilio'n dda, gwybodaeth am gyrsiau prifysgol a gofynion mynediad. Sgiliau rhifedd lefel 2 sgiliau llythrennedd cryf ar lefel 2 /lefel 3 yn ddelfrydol. *Dylai myfyrwyr wneud gwaith ymchwil a sicrhau eu bod nhw'n bodloni gofynion mynediad cymhwyster y brifysgol o'r dewis. Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch cymhwyster cyn cofrestru.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Rydw i'n meddwl fy mod i wedi datblygu llawer o hyder ar y cwrs ac wedi dysgu sgiliau sylfaenol nad oedd gen i cynt. Fe adewais i'r ysgol ar ddechrau Blwyddyn 11 felly roedd cael C mewn mathemateg a Saesneg ar lefel TGAU yn beth mawr i mi ac yn hwb i fy hyder i.
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn bydd gan fyfyrwyr y cymhwyster angenrheidiol i wneud cais ar gyfer y Brifysgol. Mae’r cyrsiau y gallech eu hastudio yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i'r cwrs Peirianneg, Mathemateg a Ffiseg.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu