Mynediad at Wyddorau Iechyd

L3 Lefel 3
Rhan Amser
3 Medi 2024 — 22 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Cyrsiau yw cyrsiau Mynediad i Wyddorau Iechyd a gallant arwain at raddau gofal iechyd proffesiynol a graddau gwyddoniaeth mewn prifysgolion.

Cynhelir y cwrs dros dair noson gan ddechrau am 5.45pm (dim gweithdai dydd Sadwrn).

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae Mynediad i Wyddorau Iechyd yn berffaith ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ar hyn o bryd neu sydd ag ymrwymiadau teulu ac sydd eisiau mynd yn ôl i addysg ôl-TGAU. Gallai’r cyrsiau hyn hefyd fod yn addas ar gyfer y rhai hynny sydd â chymwysterau lefel uchel o dramor ac sy’n dymuno astudio ymhellach yn y DU.

Bydd y cwrs yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ystod o gyrsiau prifysgol, gan gynnwys:

  • Ffisiotherapi, 
  • Ymarferydd Adran Llawdriniaeth (ODP),
  • Nyrsio,
  • Bydwreigiaeth,
  • Therapi Galwedigaethol,
  • Podiatreg,
  • Gwyddoniaeth Parafeddyg
  • Proffesiynau Perthynol i Iechyd

Mae hwn yn gwrs dwys, felly dylai ymgeiswyr fod yn sicr eu bod yn barod ar gyfer y gofynion academaidd yn ogystal â llwyth gwaith y rhaglen. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ennill cymhwyster Diploma Mynediad at Addysg Uwch. Mae hwn yn gymhwyster sy'n cael ei adnabod yn genedlaethol, ac yn cael ei dderbyn ar gyfer mynediad i gyrsiau Addysg Uwch.

Mae'r cwrs yn mynd i'r afael â Bioleg, Cemeg a Gofal Iechyd fel prif bynciau. Bydd hefyd gofyn ichi astudio Rhifedd, Sgiliau Astudio a Chyfathrebu fel pynciau craidd gorfodol. Mae tiwtorialau personol wythnosol yn cael eu cynnal i gefnogi myfyrwyr gyda'u hastudiaethau.

Nodwch fod rhai llwybrau gradd yn gofyn am gymwysterau ychwanegol (e.e. TGAU Mathemateg/Saesneg ar Radd B), ynghyd â'r cymhwyster Diploma Mynediad i Addysg Uwch. Sicrhewch eich bod yn cofrestru ar gyfer y ddarpariaeth briodol ar gyfer eich llwybr gadael cynlluniedig - gallwch drafod hyn gyda ni yn ystod eich cyfweliad os dymunwch.

Os nad oes gennych y cymwysterau TGAU sydd eu hangen arnoch chi ar gyfer eich cwrs prifysgol dewisol, efallai y byddwch eisiau ystyried ein cwrs Cyn Mynediad - Sylfaen i Oedolion. Fel arfer, mae'r wythnos gynefino'n dechrau yn ystod wythnos gyntaf mis Medi pob blwyddyn academaidd

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00

Ffi Cwrs: £160.00

Gofynion mynediad

3 blynedd neu fwy allan o addysg ffurfiol. TGAU Mathemateg C+ a/neu Saesneg C+ (Byddwch yn ymwybodol bod rhai prifysgolion angen gradd C+ TGAU Saesneg a Mathemateg ar y cam ymgeisio, ac mewn rhai achosion TGAU Gwyddoniaeth). Sgiliau rhifedd ar Lefel 2 a Sgiliau Llythrennedd ar Lefel 2 cryf / Lefel 3 – asesir mewn cyfweliad. Bydd angen i fyfyrwyr fod efo sgiliau TG sylfaenol, a gallu defnyddio apiau Microsoft Office – fel Teams, Word a PowerPoint – ar gyfer ymchwil academaidd ac aseiniadau. Llwybrau ymadael clir, wedi'u hymchwilio'n dda, gwybodaeth am gyrsiau prifysgol a'u gofynion mynediad. Dylai myfyrwyr ymchwilio a gwneud yn siŵr eu bod yn bodloni'r gofynion cymhwysterau am mynediad i’w ddewis o brifysgolion. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch cymwysterau cyn cofrestru.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiad parhaus gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth ac arholiadau.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

22 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

10 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

ACSDF3P04
L3

Cymhwyster

Access to Higher Education Diploma (Health Science)

Mwy...

Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen yn y coleg a mynd ati i astudio am Radd Sylfaen. Hefyd mae llawer o fyfyrwyr yn dilyn cyfleoedd cyflogaeth amrywiol yn y diwydiant, yn ogystal â nifer o gyrsiau yn y Brifysgol. 

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE