Mynediad i Gyfrifiadura Cymhwysol (Systemau Gwybodaeth a Chyfrifiaduron, Datblygu Meddalwedd a Dylunio Cyfrifiaduron)

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2025 — 14 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae cwrs Mynediad yn gyfle dysgu dwys, wedi'i anelu at oedolion sy'n dymuno astudio yn y brifysgol ond nad oes ganddynt y cymwysterau i wneud cais. Byddai cwrs Mynediad yn addas i fyfyrwyr hŷn sydd â phrofiadau helaeth o ran gwaith a bywyd ac sydd heb fod mewn addysg ffurfiol ers 3 blynedd neu fwy. Mae cwrs Mynediad Lefel 3 wedi'i ddylunio'n benodol i baratoi myfyrwyr at astudio ar lefel prifysgol.

Byddai'r cwrs hwn yn addas i ddysgwyr sy'n awyddus i ddilyn gyrfa yn y maes cyfrifiadureg neu fusnes ac sy'n dymuno astudio un o'r graddau prifysgol canlynol (DS nid yw'r rhestr hon yn gyflawn)

  • Seiberddiogelwch
  • Cyfrifiadureg
  • Peirianneg Meddalwedd
  • Datblygu Gwefannau
  • Swyddog Datblygu Systemau
  • Dadansoddwr Busnes
  • Cyfrifiadureg gyda Diogelwch a Fforensig
  • Mathemateg a Chyfrifiadureg
  • Peirianneg Electronig a Gwybodaeth

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â phynciau yn:

  • Systemau Gwybodaeth
  • Datblygu Meddalwedd
  • Systemau Cyfrifiadurol 
  • Strwythur rhwydweithiau

Gofynion mynediad

3 blynedd neu fwy allan o addysg ffurfiol. TGAU Mathemateg C+ (Byddwch yn ymwybodol bod rhai prifysgolion angen gradd C+ TGAU Saesneg a Mathemateg ar y cam ymgeisio, ac mewn rhai achosion TGAU Gwyddoniaeth). Sgiliau rhifedd ar Lefel 2 a Sgiliau Llythrennedd ar Lefel 2 cryf / Lefel 3 – asesir mewn cyfweliad. Bydd angen i fyfyrwyr fod efo sgiliau TG sylfaenol, a gallu defnyddio apiau Microsoft Office – fel Teams, Word a PowerPoint – ar gyfer ymchwil academaidd ac aseiniadau. Llwybrau ymadael clir, wedi'u hymchwilio'n dda, gwybodaeth am gyrsiau prifysgol a'u gofynion mynediad. Dylai myfyrwyr ymchwilio a gwneud yn siŵr eu bod yn bodloni'r gofynion cymhwysterau am mynediad i’w ddewis o brifysgolion. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch cymwysterau cyn cofrestru.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2025

Dyddiad gorffen

14 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

16 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ACCC3F10
L3

Cymhwyster

Access to Digital Technologies

Mwy...

Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Gallwch barhau at Addysg Uwch wedi dilyn y cwrs hwn. Esiamplau o’r cyrsiau Addysg Uwch:

  • BSc Cyfrifiadura
  • BSc Rheolaeth TG ar gyfer Busnes
  • Gemau Cyfrifiadurol FD, Celf a Dylunio 

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE