Mae’r ddiploma yn galluogi dysgwyr i gyflawni astudiaethau sy’n gysylltiedig ag addysgu mewn addysg gynradd. Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau a fydd yn galluogi dilyniant i amryw o gyrsiau ar lefel gradd sy’n canolbwyntio ar addysg ac addysgu a dysgu yn ogystal â datblygiad plant. Mae’r ddiploma hefyd yn cymryd golwg ehangach, gan roi sylw i faterion megis diogelu, cymdeithaseg, y defnydd o dechnoleg yn y dosbarth sy’n sylfeini i’r rhan fwyaf o gyrsiau gradd mewn addysg ac astudiaethau plentyndod.
Bydd dysgwyr yn cwblhau unedau gorfodol a fydd yn cynnwys trosolwg o dechnegau dysgu a datblygu, datblygu adnoddau, rheoli’r ystafell ddosbarth a datblygiad plant ond wedyn byddan nhw’n gallu ymchwilio’n ddyfnach i faes sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Byddant yn astudio amryw o unedau dewisol sy’n cynnwys ymchwilio i rôl cymdeithas a deall effaith cymdeithas amlddiwylliannol yn ogystal â materion addysgol ehangach gan gynnwys anghenion addysgol arbennig . Mae gan y ddiploma amryw o unedau dewisol hefyd sy’n cefnogi gwybodaeth yn yr astudiaethau cwricwlaidd ehangach y byddai eu hangen ar athro cynradd e.e. gwyddoniaeth, hanes, e-ddysgu, llythrennedd ac iaith.
3+ blynedd allan o addysg orfodol TGAU gradd C neu gyfwerth mewn Saesneg Iaith, Gwyddoniaeth a Mathemateg. Mae angen gwiriad DBS os oes angen lleoliad gwaith. DS: Gofynnir i ddarpar ddysgwyr y mae eu Saesneg yn ail iaith iddynt feddu ar Gymhwyster ESOL lefel 1 DS: Gofynnir i ddarpar ddysgwyr y mae Saesneg yn ail iaith iddynt ddangos Sgôr IELTS o 6 yn gyffredinol yn ystod y broses ymgeisio (System Profi Iaith Saesneg Ryngwladol) Saesneg llafar ac ysgrifenedig.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn gallu mynd ymlaen i nifer o gyrsiau Addysg Uwch, gan gynnwys Addysg Gynradd gyda SAC, Addysg a chyrsiau astudiaethau’r blynyddoedd cynnar ac astudiaethau plentyndod.
Yn ogystal, byddai’r dilyniant yn gallu bod i brentisiaeth lefel uwch neu radd-brentisiaeth gan gynnwys:
• Ymarferydd Arweiniol y Blynyddoedd Cynnar (gradd)
• Uwch-ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar
• Athro