Mynediad i Ddiwylliant, Llenyddiaeth a'r Cyfryngau

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 14 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae cwrs Mynediad yn gyfle dysgu dwys, wedi'i anelu at oedolion sy'n dymuno astudio yn y brifysgol ond nad oes ganddynt y cymwysterau i wneud cais. Byddai cwrs Mynediad yn addas i fyfyrwyr hŷn sydd â phrofiadau helaeth o ran gwaith a bywyd ac sydd heb fod mewn addysg ffurfiol ers 3 blynedd neu fwy. Mae cwrs Mynediad Lefel 3 wedi'i ddylunio'n benodol i baratoi myfyrwyr at astudio ar lefel prifysgol.

Bydd y cwrs hwn yn addas ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn archwilio sut rydym yn creu ac yn gweld y byd o'n cwmpas. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer rhai sy'n dymuno astudio un o'r graddau prifysgol canlynol (nid yw'r rhestr yn gyflawn):

  • Saesneg
  • Ysgrifennu Creadigol
  • Dyniaethau 
  • Newyddiaduriaeth 
  • Cyfryngau 
  • Astudiaethau Ffilm 
  • Cymdeithaseg
  • Polisi Cymdeithasol
  • Addysg

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Byddwch yn astudio ystod o fodiwlau o fewn pynciau Diwylliant, Llenyddiaeth Saesneg a'r Cyfryngau gan gynnwys: 

  • Diwylliant a hunaniaeth
  • Ideolegau sinema Prydain 
  • Grym a pherswâd Cyfryngau 
  • Dylanwad Gwleidyddol yn y cyfryngau torfol
  • Newid syniadau trwy ddelweddau 
  • Cymdeithasoli 
  • Nofelau, barddoniaeth, dramâu
  • Drama Shakespearaidd  

Gofynion mynediad

3 blynedd neu fwy allan o addysg ffurfiol. TGAU Saesneg C+ (Byddwch yn ymwybodol bod rhai prifysgolion angen gradd C+ TGAU Saesneg a Mathemateg ar y cam ymgeisio, ac mewn rhai achosion TGAU Gwyddoniaeth). Sgiliau rhifedd ar Lefel 2 a Sgiliau Llythrennedd ar Lefel 2 cryf / Lefel 3 – asesir mewn cyfweliad. Bydd angen i fyfyrwyr fod efo sgiliau TG sylfaenol, a gallu defnyddio apiau Microsoft Office – fel Teams, Word a PowerPoint – ar gyfer ymchwil academaidd ac aseiniadau. Llwybrau ymadael clir, wedi'u hymchwilio'n dda, gwybodaeth am gyrsiau prifysgol a'u gofynion mynediad. Dylai myfyrwyr ymchwilio a gwneud yn siŵr eu bod yn bodloni'r gofynion cymhwysterau am mynediad i’w ddewis o brifysgolion. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch cymwysterau cyn cofrestru.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

14 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

16 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ACCC3F04
L3

Cymhwyster

Access to Higher Education Diploma (Humanities and Social Sciences)

Mwy...

Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen yn y coleg a mynd ati i astudio am Radd Sylfaen. Hefyd mae llawer o fyfyrwyr yn dilyn cyfleoedd cyflogaeth amrywiol yn y diwydiant, yn ogystal â nifer o gyrsiau yn y Brifysgol. 

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE