Mynediad i'r Gwaith Cymdeithasol

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Dwyrain Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs, Mynediad i'r Gwaith Cymdeithasol, yn berffaith i’r rheiny sy’n awyddus i ddilyn gyrfa fel Gweithiwr Cymdeithasol. Lluniwyd y rhaglen i drosglwyddo’r sgiliau a’r wybodaeth y mae dysgwyr eu hangen i fynd ymlaen at addysg uwch. Mae hwn yn gwrs dwys, felly dylai ymgeiswyr fod yn sicr eu bod yn barod ar gyfer y gofynion academaidd yn ogystal â llwyth gwaith y rhaglen. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ennill cymhwyster Diploma Mynediad at Addysg Uwch. Mae hwn yn gymhwyster sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol, ac yn cael ei dderbyn ar gyfer mynediad i gyrsiau Addysg Uwch.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae Polisi Cymdeithasol a gwaith cymdeithasol yn brif bynciau o fewn y cwrs hwn Bydd hefyd yn ofynnol i chi ddilyn pynciau craidd mewn Rhifedd, Cyfathrebu a Sgiliau Astudio.

Gofynnir i fyfyrwyr fod â phrofiad ymarferol o iechyd a gofal cymdeithasol, neu’n barod i gwblhau lleoliad gwaith.

Asesir y cymhwyster hwn drwy gydol y flwyddyn drwy nifer o asesiadau.

Gofynion mynediad

TGAU Iaith Saesneg A * - C yn orfodol a rhaid darparu tystiolaeth cyn cofrestru. Canlyniad cyfweliad ac asesu llwyddiannus - Lefel 1 mewn Mathemateg a Lefel 2 yn Saesneg. Mae angen i ddysgwyr fod y tu allan i Addysg Ôl-Orfodol am 3 blynedd cyn astudio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

16 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Dwyrain Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ACEH3F02
L3

Cymhwyster

Access to Higher Education Diploma (Social Care)

Mwy...

Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl gorffen y cwrs hwn, gallwch fynd ymlaen i ddilyn cyrsiau Addysg Uwch.

Lleoliadau

Campws Dwyrain Caerdydd
Campws Dwyrain Caerdydd

Heol Trowbridge, 
Caerdydd, 
CF3 1QL