Mynediad i Nyrsio a Bydwreigiaeth

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae ein cwrs Mynediad i Nyrsio a Bydwreigiaeth yn berffaith i’r rheiny sy’n awyddus i ddilyn gyrfa mewn nyrsio. Lluniwyd y rhaglen i drosglwyddo’r sgiliau a’r wybodaeth y mae dysgwyr eu hangen i fynd ymlaen at addysg uwch, gan astudio’n rhan amser dros ddwy flynedd. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ennill cymhwyster Diploma Mynediad at Addysg Uwch. Mae hwn yn gymhwyster sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol, ac yn cael ei dderbyn ar gyfer mynediad i gyrsiau Addysg Uwch.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Ffi Cwrs: £50.00

Ffi Arholiad : £150.00

Gofynion mynediad

TGAU Iaith Saesneg A * - C yn orfodol a rhaid darparu tystiolaeth cyn cofrestru. Canlyniad cyfweliad ac asesu llwyddiannus - Lefel 1 mewn Mathemateg a Lefel 2 yn Saesneg. Mae angen i ddysgwyr fod y tu allan i Addysg Ôl-Orfodol am 3 blynedd cyn astudio. DS: Gofynnir i ddarpar ddysgwyr y mae eu Saesneg yn ail iaith ddangos Sgôr IELTS o 6 yn gyffredinol (System Ryngwladol Profi Iaith Saesneg) o Saesneg llafar ac ysgrifenedig.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rydw i'n meddwl fy mod i wedi datblygu llawer o hyder ar y cwrs ac wedi dysgu sgiliau sylfaenol nad oedd gen i cynt. Fe adewais i'r ysgol ar ddechrau Blwyddyn 11 felly roedd cael C mewn mathemateg a Saesneg ar lefel TGAU yn beth mawr i mi ac yn hwb i fyh.

Francessca Hill
Wedi astudio Sylfaen a Mynediad Oedolion. Nawr yn astudio Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Gofal yn CAVC.

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Yn dilyn cwblhau’r cwrs, bydd modd i ddysgwyr fynd ymlaen i gyrsiau gradd Addysg Uwch mewn Nyrsio, Bydwreigiaeth ac amrywiaeth o gyrsiau astudio Gofal. 

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Dwyrain Caerdydd
Campws Dwyrain Caerdydd

Heol Trowbridge, 
Caerdydd, 
CF3 1QL

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ