Mae ein cwrs Mynediad i'r Biowyddorau yn berffaith ar gyfer yr unigolion hynny sy'n awyddus i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o wyddorau biolegol.
Cynhelir y cwrs dros dair noson gan ddechrau am 5.45pm (dim gweithdai dydd Sadwrn).
Wedi'i lleoli ar Gampws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, dyma raglen flwyddyn ddwys a fydd yn paratoi'r myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth o gyrsiau prifysgol gan gynnwys:
Nod y cymhwyster hwn yw dysgu sgiliau a gwybodaeth i fyfyrwyr i symud ymlaen i Addysg Uwch, ac mae'r cynnwys fel rheol yn gyfle i fyfyrwyr symud ymlaen i gyrsiau prifysgol. Dyma gwrs dwys, felly rhaid i'r ymgeiswyr fod yn sicr eu bod yn barod ar gyfer gofynion academaidd a baich gwaith y rhaglen. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd y dysgwyr yn ennill y cymhwyster Diploma Mynediad i AU. Mae hwn yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ac sy'n cael ei dderbyn ar gyfer cael mynediad i gyrsiau Addysg Uwch.
Mae Bioleg a Cemeg yn cael sylw fel pynciau mawr ar y cwrs hwn. Hefyd bydd yn ofynnol i chi astudio Rhifedd, Cyfathrebu a Sgiliau Astudio fel pynciau craidd gorfodol. Cynhelir tiwtorials personol wythnosol i gefnogi myfyrwyr drwy eu hastudiaethau.
Sylwer bod rhai llwybrau gradd yn gofyn am gymwysterau ychwanegol (e.e. Gradd B mewn TGAU Mathemateg/Saesneg), a hefyd y cymhwyster Diploma Mynediad i AU. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru i'r ddapariaeth briodol yn seiliedig ar eich llwybr gadael arfaethedig - gellir trafod hyn gyda ni yn ystod eich cyfweliad os ydych yn dymuno.
Os nad oes gennych y cymwysterau TGAU eisoes ac os oes angen y rhain ar gyfer y cwrs prifysgol ydych chi'n ei ffafrio, efallai yr hoffech ystyried ein cwrs cyn Mynediad - Sylfaen Oedolion. Fel arfer mae'r wythnos gyflwyno'n dechrau yn ystod wythnos gyntaf mis Medi.
Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00
Ffi Cwrs: £160.00
3 blynedd neu fwy allan o addysg ffurfiol. TGAU Mathemateg C+ (Byddwch yn ymwybodol bod rhai prifysgolion angen gradd C+ TGAU Saesneg a Mathemateg ar y cam ymgeisio, ac mewn rhai achosion TGAU Gwyddoniaeth). Sgiliau rhifedd ar Lefel 2 a Sgiliau Llythrennedd ar Lefel 2 cryf / Lefel 3 – asesir mewn cyfweliad. Bydd angen i fyfyrwyr fod efo sgiliau TG sylfaenol, a gallu defnyddio apiau Microsoft Office – fel Teams, Word a PowerPoint – ar gyfer ymchwil academaidd ac aseiniadau. Llwybrau ymadael clir, wedi'u hymchwilio'n dda, gwybodaeth am gyrsiau prifysgol a'u gofynion mynediad. Dylai myfyrwyr ymchwilio a gwneud yn siŵr eu bod yn bodloni'r gofynion cymhwysterau am mynediad i’w ddewis o brifysgolion. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch cymwysterau cyn cofrestru.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen yn y coleg a mynd ati i astudio am Radd Sylfaen. Hefyd mae llawer o fyfyrwyr yn dilyn cyfleoedd cyflogaeth amrywiol yn y diwydiant, yn ogystal â nifer o gyrsiau yn y Brifysgol.