Nod llwybr Lefel 2 yw dysgu cymwysterau i chi i roi gwell cyfleoedd am swydd i chi neu i’ch paratoi ar gyfer astudio ar Lefel 3.
Mae’r cwrs yma ar gyfer myfyrwyr aeddfed sydd â phrofiad o fywyd (o leiaf 2 blynedd allan o addysg lawn amser) a rhai cymwysterau blaenorol, a all fod ar raddau isel neu wedi'u sefyll amser maith yn ôl!
O fis Medi ymlaen, bydd un grŵp Sylfaen Oedolion yng Nghaerdydd ar gyfer dysgwyr ESOL a bydd y grŵp yma’n cael Saesneg ychwanegol i gefnogi datblygiad iaith. Bydd yn ofynnol i ddysgwyr sy’n symud ymlaen o gyrsiau ESOL fod wedi pasio’r holl sgiliau ar lefel dau: siarad a gwrando, darllen ac ysgrifennu.
Mae’r cwrs Sylfaen Oedolion yn gwrs blwyddyn dwys sy’n adeiladu ar y sgiliau presennol. Byddwch yn astudio Gwyddoniaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, Mathemateg, Saesneg, TG a Sgiliau Astudio fel rhan o Ddiploma Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach Agored a byddwch hefyd yn cael cyfle i sefyll Saesneg a Mathemateg TGAU. Cynhelir tiwtorialau wythnosol i archwilio llwybrau datblygu ac i’ch cefnogi chi drwy eich astudiaethau.
Asesir Lefel 1 Llythrennedd a Rhifedd yn y cyfweliad (cyfwerth a TGAU Gradd D neu uwch). Bydd yn rhaid i ddysgwyr fod wedi pasio sgiliau lefel 2 ESOL mewn darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn mae llawer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i’n cyrsiau Mynediad sy’n rhoi cyfle i chi wneud cais ar gyfer y brifysgol. Mae myfyrwyr eraill yn gwneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Lefel 3 a gynigir yn y coleg, yn ogystal â dilyn amrywiaeth o swyddi gyda’u sgiliau newydd.