CAVC yn cryfhau ei gynnig lefel prifysgol ymhellach gydag ystod o gyrsiau newydd sbon
Mae darpariaeth Prifysgol Coleg Caerdydd a'r Fro yn parhau i fynd o nerth i nerth. Ar ôl dod y coleg cyntaf yng Nghymru i gael cymeradwyaeth yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd [ASA] ar gyfer Addysg Uwch y llynedd, mae'r Coleg wedi ychwanegu saith cwrs newydd sbon at ei bortffolio sydd eisoes yn canolbwyntio ar yrfa ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020-2021.