Mae darpariaeth Prifysgol Coleg Caerdydd a'r Fro yn parhau i fynd o nerth i nerth. Ar ôl dod y coleg cyntaf yng Nghymru i gael cymeradwyaeth yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd [ASA] ar gyfer Addysg Uwch y llynedd, mae'r Coleg wedi ychwanegu saith cwrs newydd sbon at ei bortffolio sydd eisoes yn canolbwyntio ar yrfa ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020-2021.
Mae'r cyrsiau newydd yn cynnwys Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn Peirianneg, Busnes, Adeiladu ac Amgylchedd Adeiledig a Pheirianneg Awyrenegol, gan adeiladu ar hanes llwyddiannus y Coleg o hyfforddi ar gyfer y diwydiannau hyn. Mae dwy radd sy'n uchel eu parch yn y diwydiant cerddoriaeth – BA mewn Cynhyrchu Cerddoriaeth Electronig a BMus mewn Recordio a Pherfformio Cerddoriaeth - ac mae’r BSc arloesol mewn Seiberddiogelwch yn agor drysau i yrfaoedd mewn llawer o sectorau.
Mae CAVC yn gweithio gyda rhwydwaith o brifysgolion partner arbenigol o bob rhan o'r DU i ddod ag ystod eang o gyrsiau Addysg Uwch i’r Brifddinas-Ranbarth, ac erbyn hyn, gyda chymeradwyaeth yr ASA, mae bellach yn gallu datblygu a dyfarnu ei gyrsiau AU ei hun.
Mae'r Coleg yn cynnig profiad addysg uwch cefnogol a phersonol o ansawdd uchel. Mae myfyrwyr yn elwa o ddosbarthiadau llai; cael eu haddysgu gan ddarlithwyr arbenigol sy'n chwarae rhan lawn yn eu diwydiant; profiadau er budd cyflogadwyedd; a briffiau byw ar gyfer y diwydiant i'ch helpu i fod yn unigryw a gwneud cynnydd. Mae pob un o'r cyrsiau AU yn cynnwys dysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein i gyd-fynd â bywydau unigolion.
Mae’r cyfraddau llwyddiant yn siarad drostynt eu hunain, gyda 98% o’r dysgwyr AU sy’n cwblhau eu cwrs yn llwyddo i gyflawni eu cymhwyster, gyda rhai canlyniadau rhagorol yn cynnwys cyrsiau fel y BEng Anrh mewn Peirianneg Awyrennau lle enillodd 80% o fyfyrwyr Radd Anrhydedd Dosbarth 1af. Mae cyfraddau bodlonrwydd myfyrwyr yn cynyddu bob blwyddyn hefyd, o 6% eleni, gan gyrraedd y lefel uchaf eto.
Mae hefyd yn talu i fod yn fyfyriwr AU yn CAVC – mae'n cynnig gwerth gwirioneddol am arian gyda'r cyfle i arbed hyd at £3,000 ar ffioedd, a chael grantiau i wneud astudio AU yn CAVC yn fwy fforddiadwy nag erioed o'r blaen.
I gael gwybod mwy am Addysg Uwch yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, neu i ddechrau cwrs ym mis Medi eleni, ewch i https://cavc.ac.uk/cy/highereducation